Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Weinidog Cymru wedi gwneud penderfyniad ynghylch y rhan arfaethedig o draffordd i’r de o Gasnewydd. Ni fydd y prosiect hwn yn parhau.

Statws:
Wedi ei dynnu yn ôl
Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Y Cefndir

Gwnaethom gyhoeddi darluniau, asesiadau amgylcheddol ac adroddiadau ar gyfer y prosiect arfaethedig yn 2016, sydd yn cynnwys rhan newydd o draffordd i'r de o Gasnewydd.

Yna cynhaliwyd Ymchwiliad Cyhoeddus dros flwyddyn o hyd, i ganiatáu i bawb ddweud eu dweud, a gwblhawyd yng ngwanwyn 2018.

Y Canlyniad

Mae Prif Weinidog Cymru wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’r cynllun ac mae wedi gwrthod llunio’r Cynlluniau a’r Gorchmynion drafft y byddai eu hangen ar gyfer prosiect yr M4.

Gallwch weld y canlynol yma:

Camau nesaf

Sefydlwyd Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn dilyn y cyhoeddiad na fyddai’r prosiect yn digwydd.

Ymgyngoriadau

Ymgyngoriadau yw un o’r ffyrdd i ni gael adborth ar brosiect

Cyhoeddiadau

Adroddiadau, datganiadau amgylcheddol a chynlluniau

Gorchmynion

Y ddeddfwriaeth sy’n ofynnol i’r prosiect fynd yn ei flaen gan gynnwys drafftiau i’r cyhoedd wneud sylwadau arnynt