Neidio i'r prif gynnwy

Gwnaeth y Comisiwn Gwaith Teg argymell sut i annog arferion cyflogaeth teg ar draws Cymru.

Cafodd y Comisiwn Gwaith Teg ei sefydlu gan y Prif Weinidog er mwyn cyflwyno argymhellion ynghylch gwaith teg.

Gwnaeth ystyried yr hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i hyrwyddo arferion cyflogaeth teg ar draws Cymru.

Roedd y Comisiwn yn un o gyrff Gweinidogol Llywodraeth Cymru. Aelodau eraill y Comisiwn oedd:

  • Yr Athro Linda Dickens MBE (Cadeirydd)
  • Yr Athro Edmund Heery
  • Sarah Veale CBE
  • Sharanne Basham-Pyke

Yr Athro Alan Felstead oedd cynghorydd arbenigol annibynnol y Comisiwn.

Cyhoeddodd y Comisiwn ei argymhellion yn yr adroddiad Gwaith Teg Cymru yng ngwanwyn 2019.