Neidio i'r prif gynnwy
Sarah Payne CBE

Mae Sarah Payne yn aelod o’r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru

Bu Ms Payne yn Gyfarwyddwr y Gwasanaeth Cenedlaethol Rheoli Troseddwyr yng Nghymru, yn Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth Prawf Cymru ac yn Gadeirydd Pwyllgor Cyfiawnder Troseddol Cymru Gyfan. Mae bellach yn gweithio fel cynghorydd annibynnol ar faterion yn ymwneud ag iechyd, diogelwch a chyfiawnder cymdeithasol ac roedd yn aelod o banel cynghori Adolygiad Lammy, a gyhoeddodd adroddiad yn ddiweddar ar y modd y mae unigolion Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu trin yn y System Cyfiawnder Troseddol, a'r canlyniadau iddynt.