Neidio i'r prif gynnwy
Y Gwir Anrhydeddus Arglwydd Thomas o Gwmgïedd

Yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd yw Cadeirydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru

Cafodd yr Arglwydd Thomas ei benodi’n Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr yn 2013 ac ymddeolodd ym mis Hydref 2017. Cafodd ei alw i'r Bar yn 1969 a daeth yn Gwnsler y Frenhines yn 1984. Penodwyd ef yn Gofiadur Cynorthwyol yn 1984, yn Gofiadur yn 1987 ac yn farnwr yr Uchel Lys yn 1996. Mae wedi cyflawni nifer o uwch-swyddogaethau barnwrol eraill, gan gynnwys Barnwr Llywyddol cylchdaith Cymru a Caer, Uwch-farnwr Llywyddol Cymru a Lloegr, Is-Lywydd Is-adran Mainc y Frenhines a Llywydd Is-adran Mainc y Frenhines.