Daeth yr ymgynghoriad i ben 17 Gorffenaf 2018.

Cyfnod ymgynghori:
24 Ebrill 2018 i 17 Gorffenaf 2018
Diweddarwyd diwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Hoffem glywed eich barn ynghylch cynigion ar gyfer sefydlu a gweithredu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i Gymru.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Yn dilyn ein Papur Gwyn, Budd y Cyhoedd a Chymru Ffyniannus, rydym yn ymgynghori ar gynigion pellach ar gyfer sefydlu a gweithredu Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil i Gymru. Bydd y Comisiwn:

  • yn goruchwylio'r gwaith o gynllunio'n strategol y ddarpariaeth addysg a sgiliau ledled y sector addysg a hyfforddiant ôl-orfodol;
  • yn gyfrifol am gyllido, contractio, asesu ansawdd, cynnal gwaith monitro ariannol ac archwilio addysg a hyfforddiant ôl-orfodol;
  • yn rheoli ac yn cyllido'r holl waith ymchwil ac arloesi a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.

Dogfennau ymghynghori

Dogfen ymgynghori

PDF
2 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn hygyrch. Cais am fformat gwahanol. Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digital@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.