Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 30 Hydref 2018.

Cyfnod ymgynghori:
5 Hydref 2018 i 30 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Adolygu ymatebion

Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym am glywed eich barn am gamau arfaethedig Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gofnodi tacsis a cherbydau hurio preifat at ddibenion codi tâl mewn Parthau Aer Glân.

Gwybodaeth ychwanegol

Rydym yn ymgynghori ar y cyd gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ynghylch y rheoliadau arfaethedig fydd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau trwyddedu lleol yng Nghymru a Lloegr i rannu rhifau cofrestru cerbydau pob cerbyd sydd wedi'i drwyddedu.

Mae'r ymgynghoriad yn holi barn am:

  • greu cronfa ddata ganolog o holl dacsis a cherbydau hurio preifat fel bod modd i'r awdurdodau lleol hynny sy'n dymuno cyflwyno Parth Aer Glân Dosbarth A-C yn Lloegr (neu'r hyn sy'n cyfateb yng Nghymru) eu cofnodi
  • y llwybr deddfwriaethol sydd ei angen i osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i rannu manylion tacsis trwyddedig a cherbydau hurio preifat.

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK