Daeth yr ymgynghoriad i ben 25 Ebrill 2013.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym yn ymgynghori ynghylch cyflwyno Cod Ymarfer gorfodol ar gyfer gwella hysbysu ynghylch deunyddiau a dderbynir, a ddidolir ac a yrrir ymlaen gan Gyfleusterau Adennill Deunyddiau (CADau).
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Y mae hwn yn ymgynghoriad ar y cyd ag Adran yr Amgylchedd Bwyd a Materion Gwledig (Defra). Bydd o ddiddordeb i weithredwyr CADau ac awdurdodau lleol.
Y mae’n well gennym weld casglu deunyddiau ar wahân ar gyfer ailgylchu yn hytrach na’u casglu â’i gilydd (wedi’u cydgymysgu) a’u didoli mewn CADau. Eithr y mae hanner awdurdodau lleol Cymru a llawer o gasglwyr masnachol yn casglu deunyddiau cydgymysgedig ac yn didoli yn y CADau.
Dymunwn wneud hysbysu cofnodion CADau yn gywirach ac yn fwy tryloyw trwy gyflwyno Cod Ymarfer CAD gorfodol. Credwn yr hyrwydda hyn ailgylchu uchel ei safon.