Neidio i'r prif gynnwy

Sut i osgoi ac adrodd am sgamiau treth a chadw eich gwybodaeth bersonol yn ddiogel wrth gyfathrebu â ni yn Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).

Os nad ydych chi'n siŵr a yw gwefan, e-bost neu rif ffôn sy'n gysylltiedig ag ACC yn ddilys:

  • peidiwch â rhoi unrhyw wybodaeth bersonol (fel manylion banc neu gyfrineiriau)
  • peidiwch ag ymateb iddo
  • peidiwch â chlicio ar unrhyw ddolenni na lawrlwytho unrhyw ffeiliau

Fyddwn ni byth yn gofyn i chi am eich cyfrinair neu eich manylion banc ar e-bost neu dros y ffôn.

Byddwn ond yn anfon dolenni atoch yn ein negeseuon e-bost wrth ymateb i'ch ymholiad sy’n gysylltiedig â threth.

Rhowch wybod i ni am wefannau, negeseuon e-bost, rhifau ffôn, galwadau ffôn neu negeseuon testun camarweiniol a allai fod yn rhai amheus.

Os ydych yn amau, anfonwch e-bost atom diogelwch@acc.llyw.cymru

Gwefannau, negeseuon e-bost, a rhifau ffôn camarweiniol

Gall rhai gwefannau, negeseuon e-bost neu rifau ffôn edrych fel petaent yn rhan o wasanaeth swyddogol y llywodraeth neu fel petaent yn rhoi mwy o gymorth nag y maent mewn gwirionedd.

Er enghraifft, gall sgamwyr anfon neges destun, e-bostio neu ffonio trethdalwyr yn esgus:

  • cynnig cymorth ariannol
  • rhoi ad-daliadau treth
  • hawlio taliad treth y maent yn honni sy’n ddyledus

Ewch i’n gwefan ar LLYW.CYMRU i chwilio am y wybodaeth a'r gwasanaethau sydd eu hangen arnoch.

Os yw e-bost neu neges destun yn edrych yn amheus, peidiwch â’i agor na chlicio ar unrhyw ddolenni.

Adrodd am sgamiau

Bydd yn helpu ein hymchwiliadau os byddwch yn dweud wrthym am unrhyw negeseuon e-bost gwe-rwydo, negeseuon testun ffug a gwefannau camarweiniol sy’n ymwneud ag ACC.

A fyddech cystal â’u hanfon ymlaen at diogelwch@acc.llyw.cymru ac yna’u dileu, hyd yn oed os byddwch yn derbyn yr un e-bost gwe-rwydo neu neges destun eto, neu rai tebyg. Byddwn yn eich ateb a gallwn ofyn i chi am ragor o wybodaeth er mwyn ymchwilio ymhellach.

Sut y byddwn yn cyfathrebu â chi

E-bost

Bydd ein e-byst i gyd yn dod o gyfeiriadau gyda '@acc.llyw.cyrmu' neu '@ wra.gov.wales' (yn Saesneg) heblaw am asiantau sy'n cofrestru ar gyfer ffeilio treth ar-lein am y tro cyntaf. Byddant yn cael e-bost cod dilysu gan Microsoft."

Byddwn ond yn anfon dolenni atoch yn ein negeseuon e-bost wrth ateb eich ymholiad treth, neu os ydych chi'n asiant (sydd wedi cofrestru â ni) a’ch bod yn cael ein diweddariadau gweithredol yn awtomatig. Byddai'r dolenni hyn i'n gwefan ar LLYW.CYMRU neu GOV.WALES (yn Saesneg).

Cofiwch, ni fyddwn byth yn anfon dolenni atoch os nad ydych wedi cysylltu â ni o'r blaen.

Er mwyn gwneud yn siŵr bod yr e-bost wedi dod oddi wrthym ni gallwch:

  • wirio’i fod yn cynnwys cyfeirnod unigryw trafodiad (CUT) neu gyfeirnod achos
  • gwirio bod hyperddolenni testun (testun sy'n aml yn las ac wedi'i danlinellu) yn cysylltu â’r URL llawn ac yn cynnwys 'https://' ar y dechrau
  • copïo a gludo’r ddolen i'ch porwr rhyngrwyd, yn hytrach na chlicio arni'n uniongyrchol

Galwadau ffôn

Os byddwn yn eich ffonio, efallai y byddwn yn gadael neges os nad ydych yn ateb. Ond ni fydd ein negeseuon llais byth yn neges awtomataidd.

Os nad ydych chi'n siŵr a yw'r alwad yn un ddilys, gallwch bob amser roi’r ffôn i lawr a’n ffonio ni yn ôl gan ddefnyddio'r manylion ar ein tudalen cysylltu â ni.

Negeseuon testun

Fyddwn ni byth yn anfon neges destun atoch chi. Os ydych chi'n derbyn neges destun gan rif sy'n honni mai ni sydd yna, e-bostiwch diogelwch@acc.llyw.cymru

Hefyd fyddwn ni byth yn defnyddio gwasanaethau negeseua, fel 'WhatsApp'.

Cyfryngau cymdeithasol

Fyddwn ni byth yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i gyfleu unrhyw wybodaeth bersonol i chi. Peidiwch ag ymateb i unrhyw bostiadau neu negeseuon cyfryngau cymdeithasol camarweiniol drwy anfon eich gwybodaeth bersonol. Yn hytrach, rhowch wybod i ni am y rhain ar diogelwch@acc.llyw.cymru

Manylion banc a thalu

Fyddwn ni byth yn gofyn i chi am eich cyfrinair na’ch manylion banc drwy e-bost neu dros y ffôn. Gallwn ofyn am y rhain yn ein ffurflenni ar-lein. Mae ein ffurflenni i gyd ar ein gwefan.

Os ydych yn derbyn e-bost neu alwad ffôn sy'n ymwneud ag ACC, yn gofyn i chi roi manylion banc, nodwch fanylion y galwr a chysylltwch â ni.

Sgamiau ad-daliadau a gostyngiadau treth

Fyddwn ni byth yn gofyn i chi ddatgelu gwybodaeth am daliadau ar e-bost. Gallwn anfon e-bost atoch i ddweud eich bod wedi derbyn ad-daliad, ond ni fydd yr e-bost hwn byth yn cynnwys dolen i wefan i chi dderbyn eich hawliad.

Os cewch chi e-bost yn dweud eich bod wedi derbyn ad-daliad ac nad ydych chi, neu unrhyw asiant neu berson sy'n gweithredu ar eich rhan wedi gofyn am un cysylltwch â ni ar unwaith os gwelwch yn dda.

Gall twyllwyr lofnodi sgamiau o'r fath gan ddefnyddio enw aelod o staff ACC go iawn mewn ymgais i wneud i'r sgam edrych yn ddilys. Os ydych yn amau, peidiwch ag ateb a chysylltwch â diogelwch@acc.llyw.cymru