Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ynghylch pryd y mae'n rhaid i gyrff a ariennir rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am ddigwyddiadau penodol. Gelwir y digwyddiadau hyn yn ddigwyddiadau hysbysu yn y llythyr dyfarnu y mae’r corff a ariennir wedi cytuno iddo.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Canllawiau ar ddigwyddiadau hysbysu , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 31 KB

PDF
31 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Er y bydd Digwyddiadau Hysbysu yn benodol i bob dyfarniad unigol, ac yn cael eu disgrifio yn y dogfennau dyfarnu, byddant fel rheol yn cynnwys y canlynol:

  • unrhyw risg na fyddwch yn parhau i weithredu neu y byddwch yn rhoi’r gorau i weithredu rhan helaeth o’ch busnes neu eich busnes i gyd, neu unrhyw risg a allai effeithio’n andwyol ar eich gallu i gyflawni a chydymffurfio ag amodau’r dyfarniad
  • unrhyw newidiadau yn eich cyfansoddiad, eich statws, eich rheolaeth, eich perchenogaeth, eich rhanddeiliaid, eich cyfarwyddwyr, eich ymddiriedolwyr neu eich partneriaid, neu os bydd eich Archwilydd yn ymddiswyddo
  • unrhyw newidiadau yn eich pŵer neu eich gallu i gyflawni’r gweithgarwch a ariennir, neu i gydymffurfio ag amodau’r dyfarniad.