Neidio i'r prif gynnwy

Nid yw Hawliau Datblygu a Ganiateir yn berthnasol i dyrbinau gwynt sydd ynghlwm â thŷ annedd neu adeilad o fewn cwrtil y tŷ annedd. Bydd angen gwneud cais cynllunio i'ch awdurdod cynllunio lleol os fyddwch am osod tyrbin gwynt sydd ynghlwm ag adeilad.

Gall gosod, addasu neu gyfnewid tyrbin gwynt annibynnol (heb fod ynghlwm ag adeilad) o fewn ffiniau tŷ annedd gael ei ystyried fel datblygu a ganiateir, heb angen cais am ganiatâd cynllunio, cyn belled ag y bo'r HOLL gyfyngiadau ac amodau a restrir isod yn cael eu hateb.

Cyfyngiadau i'w hateb:

  • Er mwyn caniatáu'r datblygiad rhaid i'r tyrbin gwynt annibynnol gydymffurfio â Safonau Cynllunio Cynllun Tystysgrifau Microgynhyrchu (Saesneg yn unig) neu safonau cyfatebol.
  • Ni ddylai gael ei leoli ar dir sydd wedi'i neilltuo at ddibenion diogelu awyrennau.
  • Gosodiad cyntaf yn unig unrhyw dyrbin gwynt a fyddai'n cyfrif fel datblygu a ganiateir, a hynny ar yr amod nad oes pwmp gwres ffynhonnell aer eisoes yn bodoli yn yr eiddo. Rhaid gwneud cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer tyrbinau gwynt neu bympiau gwres ffynhonnell aer ychwanegol yn yr un eiddo.
  • Ni ddylai rhan uchaf y tyrbin gwynt annibynnol fod yn uwch na 11.1 metr.
  • Ni ddylai'r pellter rhwng lefel y tir a rhan isaf unrhyw lafn tyrbin gwynt fod yn llai na phum medr.
  • Ni fydd y gosodiad yn cael ei ganiatáu os fyddai unrhyw ran o'r tyrbin gwynt annibynnol (gan gynnwys y llafnau) yn agosach at unrhyw bwynt ar hyd ffin yr eiddo na'r pellter sy'n cyfateb i uchder y tyrbin (gan gynnwys y llafnau) a 10 y cant eto o'i uchder.
  • Ni ddylai ehangylch unrhyw lafn tyrbin gwynt fod yn fwy na 9.6 metr sgwâr.
  • Mewn Ardaloedd Cadwraeth byddai'r tyrbin gwynt annibynnol yn cael ei osod mewn safle gweladwy o briffordd sy'n ffinio â chwrtil y tŷ annedd.
  • Nid yw'r hawliau datblygu a ganiateir yn berthnasol i dyrbin o fewn cwrtil Adeilad Rhestredig neu o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, Safle Treftadaeth y Byd, neu safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

Hefyd, rhaid ateb yr amodau canlynol. Rhaid i'r tyrbin gwynt:

  • ddefnyddio deunyddiau nad ydynt yn adlewyrchol ar y llafnau
  • gael ei be dynnu i lawr cyn gynted ag sy'n rhesymol ymarferol pan na fo'i angen bellach ar gyfer microgynhyrchu
  • gael ei osod, cyn belled ag y bo'n ymarferol, mewn lleoliad sy'n cyfyngu ar ei effaith ar fwynder ardal.

Efallai y byddwch am drafod cyflawni'r holl gyfyngiadau ac amodau hyn gydag Awdurdod Cynllunio Lleol eich ardal. Hefyd efallai bod gan eich Awdurdod Cynllunio Lleol Gyfarwyddiadau Erthygl 4 sy'n diddymu hawliau datblygu a ganiateir mewn ardaloedd penodol. Cyfrifoldeb y tirfeddiannwr yw cadarnhau bod yr hawliau datblygu a ganiateir yn bodoli a bod modd ateb yr amodau.

Cynllun tystysgrifau microgynhyrchu

Er mwyn cefnogi datblygiad y diwydiant microgynhyrchu a hybu safon a dibynadwyedd y gosodiadau, datblygwyd Cynllun Tystysgrifau Mircrogynhyrchu mewn partneriaeth â'r diwydiant a sefydliadau eraill sy'n cynrychioli lles defnyddwyr.

Mae'r Cynllun Tystysgrifau Microgynhyrchu yn cynnwys safonau clir i gefnogi'r gwaith o osod tyrbinau gwynt a  phympiau gwres ffynhonnell aer. Prif bwrpas y cynllun yw codi hyder y defnyddwyr mewn technolegau microgynhyrchu a chynorthwyo'r diwydiant i gyrraedd sefyllfa gynaliadwy.

Mae'r cynllun yn ardystio cynnyrch a chwmnïau gosod, ac yn cynnwys cod ymarfer wedi'i seilio ar God Defnyddwyr y Swyddfa Masnachu Teg. Bydd hawliau datblygu a ganiateir ar gyfer tyrbinau gwynt a phympiau gwres ffynhonnell aer ond yn cael eu rhoi i offer a osodir gan osodwyr sydd wedi'u hardystio drwy'r cynllun, gan ddefnyddio cynnyrch wedi'i ardystio. Mae'r gosodwyr felly'n gyfrifol am sicrhau bod y gosodiad yn ateb safonau sŵn perthnasol datblygu a ganiateir ar adeg ei osod. Ceir rhagor o fanylion ar wefan y cynllun tystysgrifau microgynhyrchu http://www.microgenerationcertification.org/ (Saesneg yn unig).