Neidio i'r prif gynnwy

Caiff gwaith i osod tanc tanwydd ei ystyried yn waith datblygu a ganiateir, nad oes angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer, cyhyd â’i fod yn cydymffurfio â’r amodau a’r terfynau a ganlyn:

  • Ni ddylai’r tanc fedru dal mwy na 3,500 litr.
  • Ni chaiff y cynhwysydd estyn y tu hwnt i wal sy’n rhan o brif wedd y tŷ annedd gwreiddiol. Mae canllaw ar yr hyn a olygir wrth y brif wedd i’w gweld yn y canllaw i ddeiliaid tai planlink.
  • Ni chaiff y cynhwysydd estyn y tu hwnt i ochr y tŷ pe bai’r datblygiad yn nes at briffordd na’r tŷ presennol, neu o leiaf 5 metr o’r briffordd - pa un bynnag sydd agosaf.

Sylwer: mae’r lwfansau datblygu a ganiateir a ddisgrifir yma’n berthnasol i dai ac nid i fflatiau, maisonettes neu adeiladau eraill. Cliciwch yma i weld cyfarwyddyd ar fflatiau a maisonettes.

* Ystyr y term "tŷ gwreiddiol" yw’r tŷ fel y cafodd ei adeiladu gyntaf neu fel yr oedd ar 1 Gorffennaf 1948 (os cafodd ei adeiladu cyn y dyddiad hwnnw). Er nad ydych chi efallai wedi adeiladu estyniad i’r tŷ, gallai perchennog blaenorol fod wedi gwneud hynny.

* Mae tir dynodedig yn cynnwys Parciau Cenedlaethol a’r Broads, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, ardaloedd cadwraeth a Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Canllaw i ddeiliaid tai

Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi canllaw technegol, a chanllaw i ddeiliaid tai, sydd ar gael yma, i’ch helpu i ddeall sut y gallai’r rheolau datblygu a ganiateir fod yn berthnasol i’ch amgylchiadau chi.

Dileu hawliau datblygu a ganiateir

Mae angen ichi wybod a yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu’r hawliau datblygu a ganiateir yn achos eich eiddo. Os yw’r hawliau hynny wedi’i dileu, rhaid ichi gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y gwaith. 

Mae’n bosibl bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu rhai o’r hawliau datblygu a ganiateir fel un o amodau’r caniatâd cynllunio gwreiddiol ar gyfer eich eiddo. Bydd yr wybodaeth hon ar gael yn y gofrestr gynllunio sy’n cael ei chadw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n bosibl hefyd y bydd hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu dileu drwy gyfrwng cyfarwyddyd 'Erthygl 4'. Mewn ardaloedd cadwraeth yn bennaf y gwelir cyfarwyddydau o’r fath, a hynny oherwydd y gallai gwaith datblygu nad yw’n cael ei reoli fygwth cymeriad ardal. Dylai’ch cyfreithiwr fod wedi rhoi gwybod ichi pan brynoch eich eiddo a oes cyfarwyddyd erthygl 4 arno ai peidio, ond gallwch holi’r Awdurdod Cynllunio Lleol os nad ydych yn siŵr.