Neidio i'r prif gynnwy

Fel rheol, mae gwaith i osod neu newid ffliw, simnai neu bibell garthion ac awyr allanol newydd sbon, neu waith i osod rhai newydd yn lle hen rai, yn cael ei ystyried yn waith datblygu a ganiateir, nad oes angen caniatâd cynllunio ar ei gyfer os caiff yr amodau a restrir isod eu bodloni:

  • cewch osod neu addasu simnai ar eich tŷ neu osod simnai newydd yn lle hen un heb fod angen gwneud cais am ganiatâd cynllunio os nad yw'n fwy na metr yn uwch na rhan uchaf y to
  • os ydych yn byw mewn ardal gadwraeth, parc cenedlaethol, ardal o harddwch naturiol eithriadol neu Safle Treftadaeth y Byd, bydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer gosod, addasu neu dynnu simnai neu osod simnai newydd yn lle hen un
  • os yw’r adeilad wedi’i restru neu os yw mewn ardal ddynodedig, byddai’n ddoeth ymgynghori â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol cyn gosod ffliw, hyd yn oed os gallwch fanteisio ar hawliau datblygu a ganiateir.

Sylwer: mae’r lwfansau datblygu a ganiateir a ddisgrifir yma’n berthnasol i dai ac nid i fflatiau, maisonettes neu adeiladau eraill. Cliciwch yma i weld cyfarwyddyd fflatiau a maisonettes.

Canllaw i ddeiliaid tai

Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi canllaw technegol, a chanllaw i ddeiliaid tai, sydd ar gael yma, i’ch helpu i ddeall sut y gallai’r rheolau datblygu a ganiateir fod yn berthnasol i’ch amgylchiadau chi.

Dileu hawliau datblygu a ganiateir

Mae angen ichi wybod a yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu’r hawliau datblygu a ganiateir yn achos eich eiddo. Os yw’r hawliau hynny wedi’i dileu, rhaid ichi gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y gwaith. 

Mae’n bosibl bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu rhai o’r hawliau datblygu a ganiateir fel un o amodau’r caniatâd cynllunio gwreiddiol ar gyfer eich eiddo. Bydd yr wybodaeth hon ar gael yn y gofrestr gynllunio sy’n cael ei chadw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n bosibl hefyd y bydd hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu dileu drwy gyfrwng cyfarwyddyd 'Erthygl 4'. Mewn ardaloedd cadwraeth yn bennaf y gwelir cyfarwyddydau o’r fath, a hynny oherwydd y gallai gwaith datblygu nad yw’n cael ei reoli fygwth cymeriad ardal. Dylai’ch cyfreithiwr fod wedi rhoi gwybod ichi pan brynoch eich eiddo a oes cyfarwyddyd erthygl 4 arno ai peidio, ond gallwch holi’r Awdurdod Cynllunio Lleol os nad ydych yn siŵr.