Neidio i'r prif gynnwy

Bernir bod estyniad neu ychwanegiad i’ch tŷ yn waith datblygu a ganiateir, nad oes angen cais am ganiatâd cynllunio ar ei gyfer, cyhyd â’i fod yn cydymffurfio ag amodau a therfynau. Mae terfynau ac amodau gwahanol ar gyfer estyniadau yn y cefn neu estyniadau ar yr ochr, ac ar gyfer estyniadau un llawr ac estyniadau â mwy nag un llawr.

Pob estyniad

  • Ni cheir adeiladu unrhyw estyniad o flaen prif wedd eich tŷ.
  • Ni chaiff estyniad orchuddio dros hanner arwynebedd y tir o amgylch y tŷ gwreiddiol.
  • Ni chaiff yr estyniad fod yn uwch na rhan uchaf to’r tŷ annedd gwreiddiol.
  • Ni chaiff yr estyniad fod yn uwch na bargod y tŷ annedd gwreiddiol.
  • Os yw’r estyniad o fewn 2 fetr i ffin eich tŷ, ni ddylai bargod yr estyniad fod yn uwch na 3 metr.
  • Os yw’r estyniad o fewn 2 fetr i ffin eich tŷ, ni ddylai bargod yr estyniad fod yn uwch na 4 metr.
  • Rhaid i’r deunyddiau yn yr estyniad fod mor debyg ag y bo modd i’r rheini a ddefnyddiwyd ar gyfer y tŷ gwreiddiol.
  • Ni chewch adeiladu ferandas, platfformau uchel, terasau to na balconïau.  Caniateir balconi ‘Juliet’ heb blatfform, nad yw’n ymestyn dros 300mm o’r estyniad, ac nad yw o fewn 10.5 metr i unrhyw ffin gyferbyn ag ochr y tŷ, ac nad yw’n sownd i brif wedd eich tŷ. Ni chaniateir caeadau ffenestri ar brif wedd eich tŷ.  

Estyniadau un llawr yn y cefn

  • Ni chaiff estyniadau un llawr ymestyn dros 4 metr heibio i wal gefn y tŷ, na bod dros 4 metr o uchder.

Estyniadau â mwy nag un llawr yn y cefn

  • ni chaiff llawr gwaelod yr estyniad ymestyn dros 4 metr heibio i wal gefn y tŷ  
  • ni chaiff llawr uchaf yr estyniad ymestyn dros 3 metr heibio i wal gefn y tŷ
  • rhaid i’r pellter rhwng wal gefn yr estyniad a’r ffin yng nghefn y tŷ, sef ffens neu wal yr ardd fel rheol, fod yn o leiaf 10.5 metr
  • rhaid i unrhyw ffenestr ar y llawr uchaf ar ochr yr estyniad fod mewn gwydr wedi’i gymylu, heb fod modd ei agor, oni bai bod y ffenestr 1.7 metr yn uwch na lefel y llawr
  • rhaid i oleddf to’r estyniad gyfateb, cyn belled ag y bo modd, i oleddf y to presennol
  • ni chaniateir estyniadau mwy nag un llawr yn y cefn mewn ardal gadwraeth, parc cenedlaethol, ardal o harddwch naturiol eithriadol na Safle Treftadaeth y Byd.

Estyniadau un llawr ar yr ochr

  • ni chaiff estyniadau un llawr ar yr ochr fod yn nes at y briffordd nag unrhyw wal ar ochr y tŷ annedd presennol, neu dylai fod o leiaf 10.5 metr oddi wrth y briffordd, pa un bynnag sy’n nes i’r briffordd
  • ni chaiff estyniad un llawr fod dros 4 metr o uchder
  • ni chaiff lled rhan letaf y tŷ annedd estynedig fod dros 50% yn fwy na rhan letaf y tŷ annedd presennol
  • pan fo’r tŷ mewn ardal gadwraeth, parc cenedlaethol, ardal o harddwch naturiol eithriadol neu Safle Treftadaeth y Byd, ni chaiff yr estyniad ymestyn dros 3 metr o ochr y tŷ a rhaid iddo gael ei osod o leiaf 1 metr yn ôl o brif wedd y tŷ annedd.

Estyniadau â mwy nag un llawr ar yr ochr

  • ni chaiff estyniad â mwy nag un llawr ar yr ochr fod yn nes at y briffordd nag unrhyw wal ar ochr y tŷ annedd presennol, neu mae'n rhaid iddo fod o leiaf 10.5 metr oddi wrth y briffordd, pa un bynnag sy’n nes i’r briffordd
  • ni chaniateir estyniad o fewn 10.5 metr i ffin ochr y tŷ
  • rhaid i’r estyniad gael ei osod  o leiaf 1 metr yn ôl o brif wedd y tŷ
  • ni ddylai lled rhan letaf y tŷ annedd estynedig fod dros 50% yn fwy na rhan letaf y tŷ annedd gwreiddiol
  • rhaid i unrhyw ffenestr ar y llawr uchaf ar ochr yr estyniad fod mewn gwydr wedi’i gymylu, heb fod modd ei agor, oni bai bod y ffenestr 1.7 metr yn uwch na lefel y llawr
  • rhaid i oleddf to’r estyniad gyfateb, cyn belled ag y bo modd, i oleddf y to presennol
  • ni chaniateir estyniadau â mwy nag un llawr yn y cefn mewn ardal gadwraeth, parc cenedlaethol, ardal o harddwch naturiol eithriadol na Safle Treftadaeth y Byd.

Sylwer: mae’r lwfansau datblygu a ganiateir a ddisgrifir yma’n berthnasol i dai ac nid i fflatiau, maisonettes neu adeiladau eraill. Mae canllawiau ar fflatiau a maisonettes i'w gweld yma.

Gosod simnai, ffliw neu bibell garthion ac awyru newydd sbon, eu newid neu osod rhai newydd yn lle hen rai: Cliciwch yma i ddarllen cyfarwyddyd ar y drefn ar gyfer gwaith datblygu a ganiateir o dan Ddosbarth G

Os yw’ch datblygiad yn fwy na 100 metr sgwâr, mae’n bosibl y codir tâl arno o dan yr Ardoll Seilwaith Cymunedol.

* Ystyr y term "tŷ gwreiddiol" yw’r tŷ fel y cafodd ei adeiladu gyntaf neu fel yr oedd ar 1 Gorffennaf 1948 (os cafodd ei adeiladu cyn y dyddiad hwnnw). Er nad ydych efallai wedi adeiladu estyniad i’r tŷ, gallai perchennog blaenorol fod wedi gwneud hynny.

* Mae tir dynodedig yn cynnwys parciau cenedlaethol, Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol, ardaloedd cadwraeth a Safleoedd Treftadaeth y Byd.

Canllaw i ddeiliaid tai

Mae Llywodraeth Cymru wedi paratoi canllaw technegol, a chanllaw i ddeiliaid tai, sydd ar gael yma, i’ch helpu i ddeall sut y gallai’r rheolau datblygu a ganiateir fod yn berthnasol i’ch amgylchiadau chi.

Dileu hawliau ddtblygu a ganiateir

Mae angen ichi wybod a yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu’r hawliau datblygu a ganiateir yn achos eich eiddo. Os yw’r hawliau hynny wedi’i dileu, rhaid ichi gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y gwaith. 

Mae’n bosibl bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi dileu rhai o’r hawliau datblygu a ganiateir fel un o amodau’r caniatâd cynllunio gwreiddiol ar gyfer eich eiddo. Bydd yr wybodaeth hon ar gael yn y gofrestr gynllunio sy’n cael ei chadw gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol. Mae’n bosibl hefyd y bydd hawliau datblygu a ganiateir wedi cael eu dileu drwy gyfrwng cyfarwyddyd 'Erthygl 4'. Mewn ardaloedd cadwraeth yn bennaf y gwelir cyfarwyddydau o’r fath, a hynny oherwydd y gallai gwaith datblygu nad yw’n cael ei reoli fygwth cymeriad ardal. Dylai’ch cyfreithiwr fod wedi rhoi gwybod ichi pan brynoch eich eiddo a oes cyfarwyddyd erthygl 4 arno ai peidio, ond gallwch holi’r Awdurdod Cynllunio Lleol os nad ydych yn siŵr.