Neidio i'r prif gynnwy

Er y bydd yn darparu lle defnyddiol, gall ystafell wydr a ddyluniwyd yn wael adael i lawer o ynni ddianc o'r tŷ.

Yr allwedd i osgoi hynny yw gwahanu'r ystafell wydr oddi wrth weddill y tŷ, fel nad oes modd mynd i mewn i'r ystafell ond drwy ddrws allanol (sydd wedi'i inswleiddio), fel y gellir cau'r drws hwnnw yn ystod y nos ac ar ddiwrnodau oer.

Os ydych am gael ardal haul sy'n rhan annatod o weddill y tŷ, bydd angen iddi gael ei dylunio fel estyniad sy'n cynnwys llawer mwy o wydr effeithlon o ran ynni a llawer mwy o ddeunydd inswleiddio.