Neidio i'r prif gynnwy

Nid oes angen caniatâd cynllunio fel rheol pan fyddwch yn gosod boeler neu system wresogi newydd sbon neu'n rhoi boeler neu system wresogi newydd yn lle hen un, os yw'r gwaith i gyd yn waith mewnol. Fodd bynnag, os ydych yn byw mewn adeilad rhestredig dylech ymgynghori â'ch Awdurdod Cynllunio Lleol.

Fodd bynnag, os oes angen gosod ffliw y tu allan, bydd fel rheol yn waith datblygu a ganiateir os caiff yr amodau isod eu bodloni.

  • Caiff ffliwiau ar du cefn neu ar dalcen yr adeilad eu caniatáu, ar yr amod nad ydynt dros un metr yn uwch na rhan uchaf y to.
  • Os yw’r adeilad mewn ardal ddynodedig, megis ardal gadwraeth, parc cenedlaethol, ardal o harddwch naturiol eithriadol neu’r Broads, bydd angen cael caniatâd cynllunio.
  • Os yw’r adeilad wedi’i restru, a hyd yn oed os gallwch fanteisio ar hawliau datblygu a ganiateir, bydd gofyn cael Caniatâd Adeilad Rhestredig. Byddai’n ddoeth ymgynghori â’ch Awdurdod Cynllunio Lleol cyn dechrau ar unrhyw waith.

Mae hawliau ychwanegol ar gael hefyd ar gyfer gosod ffliwiau sy’n gysylltiedig â systemau biomas a systemau gwres a phŵer cyfunedig.

Os oes angen adeilad allan ar y prosiect hefyd er mwyn storio tanwydd neu offer cysylltiedig, bydd y rheolau sy’n berthnasol i’r adeilad hwnnw yr un fath â’r rheini sy’n berthnasol i estyniadau eraill ac adeiladau allan mewn gerddi.

Darllen mwy am y drefn gynllunio ac estyniadau.

Darllen mwy am y drefn gynllunio ac adeiladau allan.