Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 7 Gorffennaf 2017.

Cyfnod ymgynghori:
12 Mehefin 2017 i 7 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Mae'r y crynodeb o ymatebion bellach ar gael.

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 556 KB

PDF
556 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn gofyn am eich barn ar agweddau yn ymwneud â'r gweithlu o fewn cam 2 y broses o weithredu Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae'r Ddeddf yn sefydlu system newydd ar gyfer rheoleiddio ac arolygu sy'n amddiffyn hawliau dinasyddion Cymru i gael gofal a chymorth diogel, priodol gydag urddas.

Rydym yn ymgynghori ynghylch cynigion yn ymwneud â recriwtio, cadw gweithwyr ac arferion gwaith yn y sector gofal cartref, er mwyn ei helpu i ddarparu gofal o'r ansawdd gorau posib. 

Mae'r rheoliadau drafft: 

  • yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau cymorth cartref wahaniaethu rhwng amser teithio ac amser gofal
  • a rhoi dewis arall yn lle contractau dim oriau i staff gofal cartref. 

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn gofyn am sylwadau ynghylch y canlynol:

  • agor y gofrestr gweithwyr cymdeithasol i'r rhai sy'n gyflogedig mewn gwasanaethau cymorth cartref o 2018 ymlaen
  • sut y gallwn roi sylw i heriau presennol o ran recriwtio a chadw rheolwyr gofal cymdeithasol hyfforddedig.

Rydym yn cynnal digwyddiadau rhannu gwybodaeth:

  • Caerdydd - 21 Mehefin 2017
  • Wrecsam - 13 Gorffennaf 2017

Er mwyn bod yn bresennol, cysylltwch â RISCACT2016@wales.gsi.gov.uk erbyn 19 Mehefin (digwyddiad Caerdydd) neu 30 Mehefin (digwyddiad Wrecsam). Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, ac maent ac yn dibynnu ar argaeledd. 

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 549 KB

PDF
549 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.