Neidio i'r prif gynnwy

Ceir achosion ‘Gofal'’ neu achosion ‘Goruchwylio’ lle mae Awdurdod Lleol wedi gwneud cais i’r llys teulu i amddiffyn plentyn pan fydd pryderon difrifol ynglŷn â diogelwch neu les y plentyn.

Gellir cymryd plant i mewn i ofal pan fydd pryderon diogelwch difrifol megis eu bod yn dioddef, neu yn debygol o ddioddef, niwed sylweddol oherwydd y ffordd y maent yn derbyn gofal, neu os ydynt y tu hwnt i reolaeth rhiant neu ofalwr.

Mae’r mathau o bryderon diogelwch difrifol a all arwain awdurdod lleol i wneud cais i’r llys i amddiffyn y plentyn yn cynnwys:

  • Esgeulustod
  • Cam-drin corfforol
  • Cam-drin rhywiol
  • Cam-drin emosiynol

Bydd yr awdurdod lleol yn rhoi tystiolaeth i’r llys, yn esbonio eu pryderon dros y plentyn, ynghyd â chynllun sy’n rhoi manylion trefniadau diogel ar gyfer y plentyn ac unrhyw asesiadau y bydd efallai angen eu cynnal.

Bydd y llys yn ystyried yr holl dystiolaeth sydd ar gael i wneud y penderfyniad sy’n ddiogel i’r plentyn. Mae hyn yn cynnwys a oes angen gwneud gorchymyn i ddiogelu’r plentyn, ble y dylai’r plentyn fyw a’r trefniant cyswllt gyda’r teulu. Bydd y llys yn ceisio gwneud penderfyniad ynghylch yr hyn sy’n mynd i ddigwydd i’ch plentyn o fewn 26 wythnos i wneud y cais. Yn ystod yr amser hwn bydd gweithwyr proffesiynol yn gwneud rhagor o waith i ddeall sefyllfa eich plentyn ymhellach ac yn gwneud argymhellion i gynorthwyo’r llys i wneud penderfyniadau terfynol ynglŷn â’r plentyn.

Bydd y canlyniad i’r plentyn fel rheol yn un o’r canlynol:

  • Dychwelyd adref – os bydd diogelwch ac ansawdd rhianta wedi gwella
  • Mynd i fyw gyda pherthynas yn nheulu ehangach y plentyn
  • Mynd i fyw gyda rhiant maeth
  • Cael ei fabwysiadu

Swyddogaeth Cafcass Cymru

Gwasanaeth annibynnol ydym ni; nid ydym yn gweithio i’r awdurdod lleol nac i’r llys. Mewn achosion gofal, gelwir Gweithiwr Cafcass Cymru yn Warcheidwad Plant. Penodir Gwarcheidwad Plant gan y Llys a’i rôl yw sicrhau bod plant yn ddiogel a bod y penderfyniadau a wneir yn eu cylch er eu budd pennaf.

Mae rhai o ddyletswyddau allweddol Gwarcheidwad Plant yn cynnwys:

  • Penodi cyfreithiwr i gynrychioli’r plentyn
  • Dadansoddi’r holl dystiolaeth sydd ar gael a gwneud argymhellion i’r llys sy’n cael eu hystyried i fod er budd pennaf y plentyn. Gellir gwneud hyn fel tystiolaeth ar lafar neu mewn adroddiad ysgrifenedig ar gamau amrywiol o fewn yr achos
  • Cyfarfod â’r plentyn fel rhan o’i asesiad a rhannu dymuniadau a theimladau’r plentyn gyda’r llys
  • Cyfarfod â gweithwyr proffesiynol allweddol fel rhan o’u hasesiad
  • Cyfarfod â’r rhieni / aelodau o’r teulu fel rhan o’u hasesiad.

Daw swyddogaeth y Gwarcheidwad Plant i ben ar ddiwedd yr achos llys, pan fydd y llys wedi gwneud ei benderfyniadau terfynol ynglŷn â’r plentyn.

Mae gan yr awdurdod lleol gyfrifoldeb i weithredu’r penderfyniadau a wnaed gan y llys a bydd yn parhau i ymwneud â’r plentyn.

Beth sy’n digwydd yn y Llys Teulu

Mae’r llys teulu yn cynorthwyo i ddatrys anghytundebau rhwng teuluoedd ac yn cynorthwyo i amddiffyn plant a phobl ifanc a all fod mewn perygl o niwed.

Materion teuluol yn unig sy’n cael eu penderfynu mewn llys teulu. Er ei fod yn edrych fel unrhyw lys arall, mae’n ceisio bod yn llai ffurfiol.

Efallai y bydd rhai teuluoedd yng Nghymru yn cael problemau. Os na fydd teulu yn medru gofalu am eu plentyn mewn ffordd ddiogel a phriodol, dyma pryd y bydd y llys teulu yn dod i’r adwy ac yn cynorthwyo i wneud penderfyniadau

Y bobl sydd â rhan yn yr achos

Weithiau bydd y ‘partïon’ (y bobl sydd â rhan yn yr achos, rhieni neu’r awdurdod lleol)yn cael cymorth cyfreithiol; gall hyn fod yn gyfreithiwr neu fargyfreithiwr. Mae’r bobl hyn yn gwybod am gyfraith plant a theulu ac fe fyddant yn siarad â’r barnwr i egluro dymuniadau a theimladau’r bobl y maent yn eu cynrychioli.

Weithiau bydd y ‘partïon’ yn eu cynrychioli eu hunain yn y llys. Gelwir y ‘partïon’ hyn yn ‘achwynwyr personol’ ac mae ganddynt yr hawl i annerch y llys yn bersonol, yn union fel y byddai cyfreithiwr neu fargyfreithiwr yn ei wneud. Mae rhagor o wybodaeth ar gyfer achwynwyr personol (LiP) yn yr adran Cymorth a Chefnogaeth isod.

Mae’r barnwyr yn y llys teulu wedi cael hyfforddiant arbennig cyn iddynt ddechrau gwneud penderfyniadau. Bydd y barnwr yn gofyn cwestiynau ac yn gwrando ar safbwyntiau pawb ynghylch yr anghytundeb cyn gwneud penderfyniad ac efallai y bydd yn holi arbenigwyr, megis gweithwyr cymdeithasol a chynghorwyr llys teulu, i’w gynorthwyo i wneud ei feddwl i fyny.

Ni fydd Cafcass Cymru byth yn cymryd rhan mewn achos ond os bydd y llys yn gofyn i ni.

Ydy plant yn mynd i’r llys?

Ni fydd plant a phobl ifanc yn mynd i’r llys fel arfer, felly ein gwaith ni ydy sicrhau ein bod yn darganfod beth yw dymuniadau a theimladau y plant yn yr achos fel y gallwn ddweud am y rhain wrth y llys a’r barnwr/ynad. Bydd hyn fel rheol yn ffurf adroddiad y bydd y barnwr yn ei ddarllen ac yn gofyn cwestiynau yn ei gylch os bydd arno angen. Byddwn hefyd yn rhoi’r cyfle i blant a phobl ifanc gyfathrebu â’r llys drwy gyflwyno un o’n templedi llythyr neu lun i’r barnwr neu’r ynad ar ran y plentyn.

Unwaith y bydd y llys yn hapus eu bod wedi clywed barn pawb sydd â rhan yn yr achos, a’u bod wedi derbyn yr holl wybodaeth y mae arnynt ei hangen, byddant yn gwneud penderfyniad ar yr hyn y maent yn ei gredu sydd er budd pennaf y plentyn yn yr achos.

 

Hawliau Plant (CCUHP) a’r gyfraith ynglŷn â phlant

Cytundeb rhwng gwledydd ydy Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)  sy’n amddiffyn hawliau dynol plant dan ddeunaw mlwydd oed. Cafodd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ei gadarnhau gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig (UN) yn 1989.

Mae 54 erthygl yn y Confensiwn.

  • Mae erthyglau 1-42 yn disgrifio sut y dylai plant gael eu trin.
  • Mae erthyglau 43-45 yn ymwneud â’r ffordd y dylai oedolion a llywodraethau gydweithio i sicrhau bod pob plentyn yn cael ei hawliau.

Hawliau Plant (CCUHP) yng Nghymru

Ym 1991 cytunodd y Deyrnas Unedig yn ffurfiol i  sicrhau bod pob plentyn yn y DU yn cael yr holl hawliau sydd wedi eu rhestru yn y confensiwn.

Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y Confensiwn fel sail ar gyfer llunio polisïau ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru yn 2004.

Cafodd ‘Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) ' 2011, ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Ionawr 2011.

Gosododd ddyletswydd ar yr holl Weinidogion Cymreig i dalu sylw dyledus i’r  hawliau a’r dyletswyddau sylweddol o fewn yr CCUHP a’i brotocolau dewisol.

Cafodd y ddyletswydd i dalu sylw dyledus i’r CCUHP ei ymestyn ymhellach o fis Mai 2014, ac yn sgil hyn mae angen i holl Weinidogion Cymru dalu sylw dyledus i’r CCUHP wrth ymarfer unrhyw rai o’u swyddogaethau fel gweinidogion.

Ewch i wefan Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Llywodraeth Cymru (CCUHP) am ragor o wybodaeth

Gwybodaeth gyfreithiol am blant

Ni all staff Cafcass Cymru gynnig unrhyw gyngor cyfreithiol ond, er mwyn eich cynorthwyo i ddod o hyd i wybodaeth gyfreithiol ar gyfer plant ac am blant yn benodol, rydym wedi rhestru rhai cysylltiadau a fydd o ddefnydd i chi efallai ar wefannau allanol:

 

Cymorth a chefnogaeth

Achwynwr personol (LiP)

Weithiau bydd ar y ‘partïon’ eisiau eu cynrychioli eu hunain yn y llys. Gelwir y ‘partïon’ hyn yn ‘achwynwyr personol’ ac mae ganddynt yr hawl i annerch y llys yn bersonol, yn union fel y byddai cyfreithiwr neu fargyfreithiwr yn ei wneud. Os ydych chi’n  achwynwr personol (LiP) efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y ffilm fer hon a gynhyrchwyd gan y Cyngor Cyfiawnder Teuluol. Mae’r ffilm yn edrych ar y ffordd y dylai unigolyn heb gyfreithiwr ei gynrychioli ef neu hi ei hun yn y llys ynghylch problem deuluol. Mae’r ffilm yn edrych ar y cwestiynau y mae pobl sydd wedi eu cynrychioli eu hunain wedi dweud eu bod yn poeni fwyaf amdanynt ac yn cynnig awgrymiadau syml ar gyfer cyflwyno’ch achos.

Cam-drin Domestig

Cam-drin domestig yw un person yn camddefnyddio grym a rheolaeth dros un arall o fewn perthynas agos neu deuluol. Gall fod yn gam-drin corfforol, emosiynol, seicolegol, ariannol neu rywiol, neu gyfuniad o’r rhain i gyd.

Os ydych chi’n ddioddefwr cam-drin domestig gellwch gysylltu â Llinell Gymorth Live Fear Free: 0808 8010800 info@livefearfreehelpline.wales am gymorth, cyngor a gwybodaeth. Mae Live Fear Free yn llinell gymorth cam-drin domestig 24 awr am ddim i bawb. 

Beth fydd Cafcass Cymru yn ei wneud?

Gellwch weld mwy o wybodaeth am gam-drin domestig a sut y cewch eich cynorthwyo yn y llys yn ein taflen ffeithiau.

Os cawn ar ddeall fod yna gam-drin domestig yn eich achos chi yn awr neu yn y gorffennol, byddwn yn dweud wrth y llys fel y gall y barnwr wneud penderfyniad ynghylch eich plant a rhoi blaenoriaeth i’w diogelwch.

Efallai y bydd dioddefwyr cam-drin domestig sy’n bodloni rhai meini prawf yn gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol; cewch fwy o wybodaeth am hyn yn y fan hon.

Sut ydym yn cefnogi anghenion amrywiol

Mae pawb yn unigryw ac ag anghenion gwahanol ac efallai y bydd angen inni roi cymorth pellach ar gyfer rhai o’r anghenion hynny – er enghraifft, er mwyn gallu cyfathrebu mor effeithiol â phosibl. Yn Cafcass Cymru, rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod unigoliaeth pawb yn cael ei gwerthfawrogi ac i weithio gyda chi mewn ffordd sy'n cefnogi a dathlu gwahaniaeth, ynghyd â sicrhau bod dymuniadau a theimladau plant yn cael eu deall a'u clywed yn gywir gan y llys teulu. Byddwn yn gofyn ichi am eich amrywiaeth er mwyn sicrhau ein bod yn ystyried eich anghenion.

Rhowch wybod inni cyn gynted â phosibl os bydd angen cymorth, ystyriaeth neu gymorth ychwanegol gennym arnoch chi neu’ch plant. Os nad yw'r Saesneg eich mamiaith ac rydych yn teimlo y byddech yn elwa ar gyfieithydd neu gyfieithiad o'n dogfennau, rhowch wybod inni a byddwn yn gwneud ein gorau glas i sicrhau bod hyn yn digwydd.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am hyn yn ein Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant a'n taflen ffeithiau.

Sefydliadau eraill ac elusennau

AFA Cymru

Gwasanaeth cynghori i aelodau o’r cyhoedd ac ar gyfer gweithwyr proffesiynol yng Nghymru – yn darparu cymorth a gwybodaeth am fabwysiadu, maethu ac olrhain perthnasau i’r holl rai yr effeithiwyd arnynt mewn unrhyw ffordd.
www.afacymru.org.uk

BAWSO

Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth i bobl Dduon a phobl o dras Ethnig Lleiafrifol yng Nghymru.
www.bawso.org.uk

Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

Mae Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn bodoli i weithredu, rhoi cymorth a chyngor i ofalwyr ledled Cymru.
www.carers.org

Cyswllt Teulu

Mae Cyswllt Teulu yn darparu cymorth, cyngor a gwybodaeth i deuluoedd â phlant anabl, waeth beth fo’u cyflwr neu anabledd.
www.contact.org.uk

Bywydau Teuluoedd

Cymorth rhianta a chefnogaeth i’r teulu gan Fywydau Teuluoedd (Parentline Plus gynt) drwy ein gwefan, sgwrs ar-lein, llinell gymorth a dosbarthiadau magu plant.
www.familylives.org.uk

Mae’r Ddau Riant yn Cyfrif

Rydym yn darparu cyngor arbenigol, cymorth ymarferol ac yn ymgyrchu dros rieni sengl.
www.bpmuk.org

 

HAFAL

Ni yw elusen bennaf Cymru ar gyfer pobl ag afiechyd meddwl difrifol a’u gofalwyr.
www.hafal.org

Cymdeithas Genedlaethol Canolfannau Cyswllt Plant (NACCC)

Cadw rhieni mewn cysylltiad â’u plant ar ôl gwahanu.
www.naccc.org.uk

Relate Cymru

Cynghori Ynghylch Perthynas, Therapi Rhywiol a Chyswllt â Phlentyn a Gynhelir yng Nghymru
www.relate.org.uk

SafeLives

Elusen genedlaethol sy’n ymroi i roi terfyn ar gam-drin domestig.
www.safelives.org.uk

Cymorth i Ferched Cymru

Cymorth i Ferched Cymru yw’r elusen genedlaethol yng Nghymru sy’n gweithio i roi terfyn ar gam-drin domestig a phob math o drais yn erbyn merched. 
www.welshwomensaid.org.uk

Meddyliau Ifanc

Cymorth am ddim, cyfrinachol ar-lein a thros y ffôn i oedolion sy’n poeni am broblemau emosiynol, ymddygiad neu iechyd meddwl plentyn neu berson ifanc.
www.youngminds.org.uk

Magu Plant. Rhowch amser iddo

Annog ymddygiad positif, hybu hyder eich plentyn a chefnogi datblygiad.
https://llyw.cymru/magu-plant-rhowch-amser-iddo

Dewis Cymru

Mae Dewis Cymru yn darparu amrywiaeth o wybodaeth ynglŷn gwasanaethau ar gyfer oedolion. Trwy ddarllen y tudalennau yma, gallwch ganfod gwybodaeth a ellir helpu chi ganolbwyntio ar beth sydd o bwys i chi nawr. Mae pob tudalen yn cynnwys dolen i’w cyfeiriadur adnoddau, lle gewch wybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau lleol neu genedlaethol a ellir fod o gymorth.
https://www.dewis.cymru/adults

Diogelu plant mewn byd digidol

Mae'n bwysig cadw'ch plentyn yn ddiogel ar-lein. Mae'r adnodd hwn ar gyfer rhieni a gofalwyr yn rhoi arweiniad a gweithgareddau defnyddiol i ddatblygu dealltwriaeth o faterion diogelwch ar-lein a chefnogi plant pan maent adref. Gellir defnyddio'r gweithgareddau i ddysgu plant am bwysigrwydd defnydd diogel a chyfrifol o dechnoleg.

https://hwb.gov.wales/parthau/diogelwch-ar-lein/

Rhowch eich adborth inni

Mae arnom eisiau gwella drwy’r amser. Felly mae arnom eisiau clywed bob amser oddi wrthych beth yr oeddech chi’n ei feddwl am y gwaith a wnaethom gyda chi. Gellwch lenwi ffurflen adborth ac fe gawn ni weld a allwn ni wella.