Neidio i'r prif gynnwy

Arweinir Cafcass Cymru gan Nigel Brown, y Prif Weithredwr, ac mae ef yn cael ei gefnogi gan Uwch Dîm Arweinyddiaeth.

Uwch Dîm Arweinyddiaeth

Mae’r tîm arweinyddiaeth uwch yn cynnwys rheolwyr o bob rhan o Gymru ac ar draws yr holl adrannau. Maent yn gosod cyfeiriad strategol ac arweiniad, yn rheoli’r gwasanaeth a ddarperir ac yn hybu ac yn arwain newid ar draws y sefydliad.

Gwerthoedd ein staff

Mae arnom eisiau i blant a theuluoedd gael hyder yn y ffordd yr ydym yn gweithio. Mae ein gwerthoedd yn sail i'r gwasanaethau a ddarparwn a disgwyliwn i'n holl staff eu croesawu a'u hyrwyddo ym mwrth a wnawn.

Mae'r gwerthoedd hyn yn:

  • Ein gwasanaeth – Rydym eisiau darparu gwasanaeth o’r ansawdd gorau i gefnogi gwell canlyniadau i bob plentyn, person ifanc a theulu yr ydym yn gweithio â nhw.
  • Ein staff – Rydym eisiau amgylchedd a diwylliant dysgu lle mae staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u lles yn cael ei gefnogi.
  • Ein Rhanddeiliaid – Rydym eisiau rhannu ein gwybodaeth, dysgu gan bartneriaid a defnyddio ein dylanwad ar y cyd i wella’r system cyfiawnder teuluol a gofal cymdeithasol plant yng Nghymru.

Er mwyn dangos yr ymrwymiad hwn, rydym yn mesur ein llwyddiant fel unigolion a gyda’n gilydd, yn erbyn y gwerthoedd drwy ein hadolygiadau rheoli perfformiad. Cynhelir adolygiad rheoli perfformiad yn flynyddol, yn unol â Pholisi Rheoli Perfformiad Llywodraeth Cymru.

Hyfforddiant staff

Mae ein holl staff sydd â rhan uniongyrchol mewn achosion llys teulu yn weithwyr cymdeithasol profiadol cymwysedig, sydd eisiau gwella bywydau plant yng Nghymru. Maent i gyd wedi eu cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ac mae ganddynt gymhwyster dilys mewn gwaith cymdeithasol.