Neidio i'r prif gynnwy

Drwy ein cynlluniau perchnogi cartref, rydym yn darparu cymorth ariannol i helpu pobl yng Nghymru i berchnogi eu cartref eu hunain. Mae pob cynllun wedi'i deilwra ar gyfer pobl mewn amgylchiadau gwahanol er mwyn inni helpu mwy o bobl i brynu eu cartrefi eu hunain.

  • Rhanberchnogaeth – Cymru: Prynu cyfran gychwynnol o rhwng 25% a 75% o eiddo a thalu rhent ar y gyfran sy'n weddill.
  • Cymorth i Brynu – Cymru: Cynllun benthyciadau ecwiti a rennir ar gyfer cartrefi gwerth hyd at £300,000 o 1 Ebrill 2023. Mae'r cynllun hwn ar gyfer pobl sy'n prynu cartref am y tro cyntaf a'r rhai hynny sy'n symud tŷ - cyhyd â bod ganddynt flaendal sy'n 5% o werth yr eiddo.
  • Prynu Cartref – Cymru: Cynllun benthyciadau ecwiti o rhwng 30% a 50% ar gyfer y rheiny sy'n bodloni meini prawf penodol i brynu eiddo.

Defnyddiwch ein teclyn yma i ddod o hyd i gynllun perchnogi cartref sy;'n addas i chi.