Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r gronfa Buddsoddi i Arbed yn bwll byrdymor o adnoddau sydd ar gael i helpu sefydliadau’r gwasanaeth cyhoeddus i drawsnewid y ffordd y maent yn gweithio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ceisiadau

Mae croeso o hyd ichi anfon ceisiadau ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20 ond mae angen iddynt gael eu cyflwyno cyn 1 Tachwedd. Cysylltwch â ni os hoffech gyflwyno cais ar gyfer y flwyddyn hon ond eich bod yn methu gwneud hynny erbyn y dyddiad targed.

Rydym hefyd yn awyddus i gael cynigion ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21 a dylid cyflwyno’r rheini inni erbyn 1 Mawrth 2020.

Dylai ceisiadau allu dangos eu bod yn gallu:

  • nodi a chreu arbedion sylweddol sy'n rhyddhau arian
  • darparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y dinesydd
  • cefnogi agweddau allweddol ar agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau cyhoeddus a’u gwneud yn fwy effeithlon.

Y taliadau a wneir o'r gronfa yw:

  • yn llawn ad-daladwy
  • di-log
  • hyblyg ar y cyfnod ad-dalu

Gwneud cais

Darllenwch y canllawiau a’r nodiadau sgorio cyn cwblhau eich ffurflen gais.

Rhaid i’ch ffurflen gais  gynnwys disgrifiad clir o’r canlynol:

  • y broblem
  • yr ateb yr ydych yn ei gynnig
  • sut y byddwch y gweithredu’r ateb a gwerthuso’r gwaith hwnnw
  • hefyd pwy fydd yn gyfrifol am weithredu’r cynllun

Cymorth

Os hoffech drafod cynnig neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’r tîm Buddsoddi i Arbed a fydd yn gallu eich helpu i brofi’ch cynnig yn erbyn meini prawf y gronfa.

Ffôn: 03000253699/03000615615

e-bostiwch: I2Sinvestmentfund@llyw.cymru.