Neidio i'r prif gynnwy

Yn y canllaw hwn

4. Beth fydd yn digwydd nesaf

Taliadau Cymorth mewn Argyfwng

Mae'n cymryd 24 awr i brosesu ceisiadau (a wneir rhwng ddydd Llun a dydd Gwener).

Os byddwch yn gwneud cais ar ôl 12pm ddydd Gwener, ni fyddwn yn cysylltu â chi tan y dydd Llun canlynol.

Os caiff eich cais ei gymeradwyo

Byddwch yn cael:

  • taleb PayPoint neu daliad BACS i dalu am fwyd, nwy, trydan a theithio mewn achos o argyfwng
  • talebau i'ch helpu i brynu dillad

Os na chaiff eich cais ei gymeradwyo

Byddwn yn ysgrifennu atoch drwy'r post neu dros e-bost i egluro'r rhesymau. Os yw eich cais yn aflwyddiannus, gallwch ofyn am adolygiad.

Taliadau Cymorth i Unigolion

Mae'n cymryd 10 diwrnod gwaith i brosesu ceisiadau.

Os caiff eich cais ei gymeradwyo

Byddwch yn cael:

  • nwyddau gwyn eraill megis oergell, popty neu beiriant golchi a gan AO Retail Limited
  • dodrefn i'r cartref megis gwelyau, soffas a chadeiriau gan The Furnishings Service (TFS)
Manylion cyswllt

AO Retail Limited

Rhif ffôn: 0800 054 6544 dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 6pm
E-bost: orders@ao-business.com 

The Furnishings Service (TFS)

Rhif ffôn: 01355 587744 dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm (4pm dydd Gwener)

Byddwch yn cael galwad ffôn, neges destun neu e-bost gan y cyflenwr i drefnu bod y dodrefn yn cael eu cludo atoch. Dylech ganiatáu 24 awr ar ôl i'ch cais gael ei gymeradwyo cyn cysylltu â nhw.

Os na chaiff eich cais ei gymeradwyo

Byddwn yn ysgrifennu atoch drwy'r post neu dros e-bost i egluro'r rhesymau. Os yw eich cais yn aflwyddiannus, gallwch ofyn am adolygiad.