Neidio i'r prif gynnwy

Os nad oes modd i chi dalu am welliannau hanfodol i’ch cartref, gallwch wneud cais am fenthyciad ar gyfer gwella tai.

Gallwch ddefnyddio’r benthyciad i dalu am waith i wneud eich cartref yn gynnes ac yn ddiogel.

Rydym wedi clustnodi £43 miliwn ar draws Cymru ar gyfer benthyciadau gwella cartrefi a benthyciadau cartrefi gwag.

Cymhwystra

Mae benthyciadau di-log o hyd at £35,000 ar gael i’r rhai sy’n gymwys. Mae’r benthyciadau yn cael eu rheoli gan yr awdurdod lleol a byddant yn codi ffi weinyddu o hyd at 15%. Maent hefyd yn penderfynu ar eu meini prawf eu hunain.

Gwneud cais

I gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais, cysylltwch â’ch awdurdod lleol:

Chwiliwch:
Er enghraifft CF10 3NQ