Neidio i'r prif gynnwy

Telerau ac amodau gan gynnwys defnyddio cwcis.

1. Cyflwyniad

1.1 Mae gwasanaethau Ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) (y “Gwasanaethau”) yn caniatáu i gwsmeriaid ACC a’i asiantaethau: gyflwyno ffurflenni ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir (LTT) a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDT) dros y Rhyngrwyd, gweld cofnodion ar-lein a rhyngweithio’n gyffredinol, yn ogystal â rhannu gwybodaeth a chynnal busnes ag ACC dros y Rhyngrwyd. Gellir ychwanegu gwasanaethau a nodweddion ategol at y Gwasanaethau yn y dyfodol.

1.2 Mae modd cael mynediad at y Gwasanaethau ar wefan ACC drwy ddefnyddio’r ddolen hon: llyw.cymru/acc or (neu gyfeiriad gwefan arall y byddwn yn ei ddefnyddio yn y dyfodol) (y “Wefan”).

1.3 Mae’r telerau ac amodau hyn (y “Telerau”) yn nodi sut byddwn yn darparu’r Gwasanaethau i chi fel cwsmer. Drwy gofrestru i ddefnyddio’r Gwasanaethau rydych chi’n cytuno i gadw at y Telerau hyn, ac yn benodol rydych chi’n derbyn yr ymwadiadau a’r cyfyngiadau ar atebolrwydd sydd yn y Telerau hyn. Darllenwch y Telerau hyn yn ofalus cyn defnyddio’r Gwasanaethau Ar-lein. Os nad ydych chi’n dymuno cael eich rhwymo gan y Telerau hyn, peidiwch â bwrw ymlaen.

1.4 Cofiwch fod pob unigolyn sy’n defnyddio'r Gwasanaethau hyn wedi’u rhwymo gan y Telerau hyn.

Yn ôl i'r brig

2. Diffiniadau

2.1 Yn y Telerau hyn:

  • Ystyr “Manylion Mynediad” yw enw defnyddiwr a’r cyfrinair y mae pob unigolyn mewn Parti Busnes, neu bob Cyswllt sy’n gweithredu ar ran Parti Busnes, wedi’u creu a’u defnyddio
  • Ystyr “Parti Busnes” yw’r busnes neu’r sefydliad sydd wedi cofrestru i dderbyn y Gwasanaethau mewn perthynas â'r gwaith gweinyddu a’r gweithgareddau perthnasol i’r busnes hwnnw. Bydd y term “Partïon Busnes” yn cael ei ddehongli yn yr un modd
  • Ystyr “Cyswllt” yw unigolyn y mae Parti Busnes wedi'i awdurdodi i gael mynediad at y Gwasanaethau ac a fydd yn gweithredu ar ran y Parti Busnes hwnnw wrth gyflwyno ceisiadau a gwybodaeth i ACC
  • Ystyr “Cynnwys” yw'r dyluniad, y testun, y graffigwaith ac unrhyw ddeunydd arall sydd ar y Wefan
  • Ystyr “Unigolion sy’n rhan o’ch busnes” yw’r holl unigolion (e.e. partneriaid, gweithwyr, ac ati) rydych chi’n eu hystyried yn aelodau o'ch busnes
  • Ystyr “Deunyddiau” yw deunyddiau sydd wedi'u darparu gennym ni, gennych chi neu gan eich Cysylltiadau, ac y mae modd cael mynediad atynt fel rhan o’r Gwasanaethau. Maent yn cynnwys, yn ddigyfyngiad, ffurflenni LTT neu LDT, dogfennau cofrestru a dogfennau ategol
  • Mae “Person” yn cwmpasu cyrff corfforaethol, cymdeithasau anghorfforedig, partneriaethau, ymddiriedolaethau, unigolion ac unrhyw gyfuniad o un neu fwy o'r rhain
  • Ystyr “Cyflwyniad” yw unrhyw Gyflwyniad/ffurflen ar gyfer LTT neu LDT a gyflwynwyd [gan Gyswllt] ar ran Parti Busnes drwy’r Wefan. Bydd y gair “Cyflwyno” yn cael ei ddehongli yn yr un modd
  • Ystyr “Telerau ac Amodau” yw'r telerau ac amodau sy’n berthnasol i bob Defnyddiwr ac yn rheoli’r modd maen nhw’n defnyddio’r Wefan
  • Ystyr “Defnyddiwr” neu “Defnyddwyr” yw’r rheini sy’n defnyddio’r Wefan a’r Gwasanaethau, yn unigol neu gyda’i gilydd
  • Mae “Ni” a/neu “Ein” yn cyfeirio at ACC (ynghyd â’n gweithwyr, ein hasiantau a’n contractwyr)
  • Mae “Chi” yn cyfeirio atoch chi, y Parti Busnes neu’r person sy’n defnyddio’r Wefan ac yn cael mynediad at y Gwasanaethau. Bydd “eich” yn cael ei ddehongli yn yr un modd

Yn ôl i'r brig

3. Cofrestru

3.1 Rhaid i chi gofrestru er mwyn cael mynediad at y Gwasanaethau a’u defnyddio.

3.2 Gallwch gofrestru i ddefnyddio'r Gwasanaethau ar ran busnes neu sefydliad (gan gynnwys pan fyddwch yn gweithredu fel asiant ar eu rhan). Drwy gofrestru i weithredu ar ran cwsmer, rydych chi’n cadarnhau eich bod wedi cael eich awdurdodi i wneud hynny.

3.3 Gallwch gofrestru i ddefnyddio'r Gwasanaethau yn gov.wales/wra. Bydd eich manylion cofrestru, gan gynnwys eich enw a'ch cyfeiriad e-bost lle bo hynny’n berthnasol, yn cael eu storio ar wasanaeth Microsoft B2C yn unol â pholisi preifatrwydd Microsoft. Bydd eich Manylion Mynediad yn cael eu defnyddio i ddilysu eich manylion adnabod a’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu. Ar ôl cofrestru, byddwch yn gallu mewngofnodi i gael mynediad at y Gwasanaethau drwy ddefnyddio’ch Manylion Mynediad.

3.4 Drwy gofrestru i ddefnyddio'r Gwasanaethau, rydych chi’n nodi ac yn gwarantu bod gennych chi’r hawl, yr awdurdod a’r gallu i ddefnyddio’r Wefan a'r Gwasanaethau, a’ch bod yn cytuno i gadw at y Telerau hyn. Os byddwn ni’n canfod, neu fod gennym ni unrhyw reswm i gredu, nad oes gennych chi'r hawl, yr awdurdod na’r gallu i ddefnyddio’r Wefan a'r Gwasanaethau, nac i gael eich rhwymo gan y Telerau hyn, gallwn wneud y canlynol yn unol â’n disgresiwn:

  1. atal dros dro neu ddiddymu eich cofrestriad a/neu eich mynediad at y gwasanaethau ar unwaith heb roi unrhyw rybudd i chi
  2. atal dros dro neu ddiddymu cofrestriad unrhyw un o’ch Cysylltiadau a/neu eu gallu i gael mynediad at y Gwasanaethau ar unwaith, heb rybudd
  3. lle bo’ch Cysylltiadau hefyd yn gysylltiadau i Bartïon Busnes eraill, canslo eu gallu i gael mynediad at y Gwasanaethau mewn perthynas â’ch busnes chi yn unig.

3.5 Mewn perthynas â’ch hawl i gofrestru i ddefnyddio'r Gwasanaethau, rydych chi’n cytuno i wneud y canlynol: 

  1. darparu gwybodaeth wir, gywir, gyfredol a chyflawn am eich hun a’ch busnes neu’ch sefydliad (neu’r busnes neu’r sefydliad rydych chi’n gweithredu ar ei ran, lle bo hynny’n berthnasol) pan fydd gofyn i chi wneud hynny mewn ffurflen gofrestru berthnasol neu unrhyw ffurflen/llythyr arall y byddwn ni’n gofyn i chi eu cwblhau ar unrhyw adeg
  2. byddwch chi’n rhoi gwybod i ni’n brydlon os bydd unrhyw wybodaeth rydych chi wedi'i darparu i ni yn newid, er mwyn sicrhau bod y wybodaeth sydd gennym yn wir, yn gywir ac yn gyflawn.

Yn ôl i'r brig

4. Diogelwch eiddo

4.1 Rhaid i chi sicrhau eich bod chi (a’r unigolion sy’n rhan o’ch busnes lle bo hynny’n berthnasol) yn cadw’r holl Fanylion Mynediad yn ddiogel ac yn cymryd camau rhesymol i’w gwarchod. 

4.2 Rhaid i chi gymryd yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau nad oes unrhyw un, oni bai am yr unigolion sy’n rhan o’ch busnes ac â’r awdurdod i gael mynediad at y Gwasanaethau (neu unrhyw ran ohonynt) yn defnyddio’r Manylion Mynediad sy’n eiddo i’r unigolion hynny. Os byddwch chi’n amau bod unrhyw berson arall wedi defnyddio, neu yn defnyddio, Manylion Mynediad o’r fath, rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith. 

4.3 Rhaid i chi gadw dyfais adnabod eich sefydliad yn ddiogel ac yn gyfrinachol, a chymryd pob cam rhesymol i’w warchod.

4.3 Rhaid i chi sicrhau mai dim ond y bobl sy’n addas, sydd â'r cymwysterau priodol ac sydd wedi’u hawdurdodi i gael mynediad at y Gwasanaethau a’u defnyddio mewn perthynas â’ch busnes, rydych chi’n eu dewis i weithredu fel Cysylltiadau. Dim ond i’r graddau angenrheidiol i gyflawni dibenion eich busnes y dylech chi benodi Cysylltiadau. Po fwyaf y Cysylltiadau sydd â Manylion Mynediad, y mwyaf yw’r siawns y byddant yn cael eu camddefnyddio. Rydyn ni’n disgwyl i chi adolygu eich Cysylltiadau’n rheolaidd a rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau ar unwaith.

4.4 Byddwch chi’n cymryd pob cam rhesymol i sicrhau nad oes unrhyw un, oni bai am y bobl sydd wedi’u hawdurdodi o dan y Telerau hyn, yn cael mynediad at y Gwasanaethau (neu unrhyw ran ohonynt) gan ddefnyddio cyfrifon sydd wedi’u creu ar eich rhan. Yn y pen draw, chi fydd yn gyfrifol am unrhyw gamddefnydd o unrhyw un o’r Manylion Mynediad perthnasol i’ch busnes a/neu unrhyw achos o dorri’r Telerau ac Amodau i Ddefnyddwyr gan unrhyw asiant a/neu unigolyn sy’n rhan o’ch busnes (gan gynnwys eich Cysylltiadau, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny). Os byddwch chi’n amau bod unrhyw gamddefnydd a/neu dorri amodau wedi digwydd, neu yn digwydd, rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith. 

4.5 Os bydd eich awdurdod neu’ch hawl i ddefnyddio'r Gwasanaethau, gan gynnwys fel asiant ar gyfer neu ar ran busnes neu sefydliad, yn cael ei ddiddymu, ei atal dros dro neu ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg, rhaid i chi roi’r gorau i ddefnyddio’r Gwasanaethau a dadgofrestru mewn perthynas â’r cyfrif perthnasol ar unwaith.

Yn ôl i'r brig

5. Eich Rhwymedigaethau

5.1 Chi fydd yn gyfrifol am eich gweithrediadau a/neu weithrediadau asiantau a/neu’r unigolion sy’n rhan o’ch busnes (gan gynnwys Cysylltiadau, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny). Bydd yr asiantau a/neu’r unigolion sy’n rhan o’ch busnes sydd â Manylion Mynediad yn cael caniatâd i chwilio, gweld, copïo, argraffu a defnyddio cynnwys y Wefan a defnyddio’r Gwasanaethau (gan gynnwys y Deunyddiau) ar eich rhan. Rhaid i chi sicrhau bod yr asiantau a/neu’r unigolion sy’n rhan o’ch busnes yn:

  1. gweithredu yn unol â chylch gwaith eu rôl yn eich busnes neu’ch sefydliad, neu mewn perthynas â hynny
  2. gweithredu yn unol â’ch awdurdod bob amser
  3. cydymffurfio â’r Telerau ac Amodau i Ddefnyddwyr bob amser
  4. gweithredu yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan ACC o bryd i'w gilydd.

5.2 Rhaid i chi sicrhau eich bod chi neu, lle bo unigolion yn gweithredu ar eich rhan, fod asiantau a/neu'r unigolion hynny sy’n rhan o’ch busnes ddim yn rhannu unrhyw ran o’r Gwasanaethau, nac unrhyw Ddeunyddiau, mewn perthynas â chi na’ch busnes ag unrhyw drydydd parti, oni chaniateir hynny yn unol â'r Telerau hyn.

5.3 Rydyn ni’n argymell mai dim ond Cysylltiadau dynodedig sy’n cael eu hawdurdodi gennych i gyflwyno ffurflenni ar eich rhan. Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod unigolion sy’n rhan o’ch busnes a/neu asiantau (gan gynnwys eich Cysylltiadau, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) sydd wedi’u dynodi i gyflwyno ffurflenni yn gweithredu yn unol â’ch awdurdod chi bob amser wrth gyflwyno ffurflenni. Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  1. sicrhau bod pob ffurflen sy’n cael ei llenwi a’i chyflwyno gan eich Cysylltiadau yn cael eu llenwi a’u cyflwyno yn unol ag unrhyw ganllawiau ar Ffurflenni a gyhoeddwyd gan ACC;
  2. sicrhau bod eich Cysylltiadau yn arfer pob gofal, sgil a sylw priodol wrth lenwi a chyflwyno unrhyw Ffurflen, gan sicrhau bod y wybodaeth a ddarperir yn gywir
  3. sicrhau bod eich Cysylltiadau yn darparu’n brydlon unrhyw wybodaeth ychwanegol, dogfennau ategol a/neu eglurhad y mae ACC yn gwneud cais amdanynt mewn perthynas â Ffurflen (neu y byddwch chi eich hun yn darparu’n brydlon unrhyw wybodaeth ychwanegol, dogfennau ategol a/neu eglurhad)
  4. glynu wrth yr holl ofynion archwilio mewn perthynas â'r Cyflwyniad.

Bydd rhaid i'r Cysylltiadau rydych chi’n eu henwebu gael eu cymeradwyo gennym ni a byddant yn cael caniatâd i gyflwyno ffurflenni ar eich rhan.

5.4 Rhaid i chi sicrhau eich bod chi, neu lle bo unigolion yn gweithredu ar eich rhan, bod yr asiantau a/neu’r unigolion hynny sy’n rhan o’ch busnes ddim yn:

  1. addasu unrhyw ran o'r Cynnwys
  2. copïo, argraffu neu atgynhyrchu fel arall unrhyw ran o'r Deunyddiau, fel rhan o’ch defnydd awdurdodedig o’r Gwasanaethau a ganiateir gan y Telerau hyn
  3. neilltuo neu ddirprwyo mewn unrhyw ffordd arall unrhyw un o’ch hawliau, neu bob un ohonynt, o dan y Telerau hyn.

5.5 Rhaid i chi arfer pob gofal a sylw priodol wrth ddewis unrhyw Gysylltiadau i weithredu ar eich rhan.

5.6 Chi sy’n gyfrifol am sicrhau bod eich technoleg gwybodaeth, eich rhaglenni cyfrifiadurol a’ch llwyfannau wedi’u ffurfweddu er mwyn cael mynediad at y Gwasanaethau. Er yr hyn a nodir ym mharagraff 6.1 (c) isod, dylech chi ddefnyddio eich meddalwedd eich hun i’ch diogelu rhag firysau.

5.7 Rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:

  1. defnyddio'r Wefan neu'r Gwasanaethau fel dull o geisio busnes neu sefydlu cysylltiadau masnach
  2. hysbysebu neu hyrwyddo eich cynnyrch neu’ch gwasanaethau eich hun neu drydydd parti ar y Wefan, gan gynnwys drwy anfon negeseuon e-bost “sbam”
  3. esgus bod yn Defnyddiwr arall
  4. defnyddio’r Wefan i gynnal gweithgareddau twyllodrus
  5. cael mynediad neu geisio cael mynediad at gyfrifon Defnyddwyr (gan gynnwys Partïon Busnes eraill) heb ganiatâd y Defnyddwyr neu’r Partïon Busnes hynny
  6. ymyrryd neu geisio ymyrryd â mesurau diogelwch y Wefan, neu rai sy’n berthnasol i'r Wefan.

5.8 Rhaid i unrhyw Ddeunyddiau sy’n cael eu postio, eu cyhoeddi neu eu trosglwyddo ar neu drwy’r Wefan – gennych chi, yr asiantau a/neu’r unigolion sy’n rhan o’ch busnes – beidio â bodloni’r canlynol:

  1. gallu cael ei ystyried yn fygythiol, yn anweddus, yn niweidiol, yn ddifenwol, yn bornograffig neu’n anghyfreithlon mewn unrhyw ffordd arall
  2. tarfu neu amharu ar hawliau eraill mewn unrhyw ffordd (gan gynnwys hawliau eiddo deallusol, hawliau cyfrinachedd a hawliau preifatrwydd
  3. achosi trallod neu anghyfleuster
  4. mynegi barn y gallai eraill ei ystyried yn ddi-chwaeth, yn aflednais, yn rhywiaethol, yn hiliol neu’n dramgwyddus mewn unrhyw ffordd arall
  5. bod yn anghyfreithlon mewn unrhyw ffordd arall.

5.9 Byddwn ni’n cydymffurfio’n llawn ag unrhyw awdurdodau gorfodi'r gyfraith neu orchymyn llys sy’n rhoi cyfarwyddyd i ni ddatgelu manylion adnabod unrhyw un sy’n defnyddio’r Gwasanaethau a/neu unrhyw Ddeunyddiau (gan gynnwys y Deunyddiau) mewn unrhyw un o’r ffyrdd a nodir ym mharagraff 5.8 uchod.

5.10 Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw Ddeunydd sy’n cael ei ysgrifennu gan Ddefnyddwyr (gan gynnwys Partïon Busnes eraill) ac sy’n cael ei bostio ar y Wefan, neu sy’n cael ei drosglwyddo drwy’r Wefan, ac nid ydym yn ardystio Deunydd o’r fath. Rydyn ni’n cadw'r hawl i olygu, gwrthod postio neu dynnu unrhyw Ddeunydd oddi ar y Wefan yn unol â’n disgresiwn absoliwt. Os na fyddwn yn llwyddo i dynnu Deunydd penodol i lawr, ni fydd hyn yn golygu ein bod yn ardystio neu’n derbyn y Deunydd hwnnw.

5.11 Rhaid i chi sicrhau bod yr holl Ddeunyddiau neu wybodaeth sy’n cael eu llwytho i fyny i'r Wefan gennych chi (neu ar eich rhan) fel rhan o’r Gwasanaethau yn wir, yn gywir ac yn gynhwysfawr, eu bod wedi’u cwblhau gan ddefnyddio’r gofal a’r gallu gorau posibl o fewn rheswm, a bod pob agwedd arnynt yn gyfredol bob amser (a byddwn yn cymryd hynny’n ganiataol). Chi sy’n gyfrifol am Ddeunyddiau neu wybodaeth o'r fath. Rhaid i chi sicrhau bod yr holl Ddeunyddiau a’r wybodaeth yn cael eu cyflwyno gan bobl sydd wedi cael yr awdurdod priodol i wneud hynny gennych chi.

5.12 Bydd unrhyw Ddeunyddiau sy’n cael eu llwytho i fyny i'r Wefan fel rhan o’r Gwasanaethau yn cael eu storio yn eich storfa ar-lein. Chi sy’n gyfrifol am adolygu Deunyddiau o’r fath a rhoi gwybod i ni am unrhyw beth sy’n anghywir neu wedi'i hepgor. Bydd unrhyw waith o gywiro gwybodaeth sy’n anghywir neu wedi’i hepgor o gyflwyniadau unigol yn cael ei wneud yn unol â rheolau penodol ACC ar gyfer y ffurflenni unigol hynny. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw wybodaeth anghywir neu wybodaeth wedi’i hepgor nad oes unrhyw un wedi rhoi gwybod i ni amdani yn ystod y cyfnod gofynnol penodedig.

Yn ôl i'r brig

6. Ein rhwymedigaethau

6.1 Byddwn yn arfer pob gofal ac ymdrech pan fyddwn yn:

  1. casglu Cynnwys a’i roi ar y Wefan
  2. sicrhau bod y Wefan ar gael
  3. ceisio sicrhau bod unrhyw ffeiliau data a meddalwedd a ddarperir i chi fel rhan o’n Gwasanaethau yn ddi-feirws
  4. ceisio sicrhau bod y Gwasanaethau yn barhaus a bod unrhyw ddigwyddiad sy’n amharu ar fynediad i’r wefan yn cael ei leihau i’r graddau mwyaf posibl
  5. diogelu unrhyw ddata personol a ddarperir gennych chi, gan asiantau neu gan unigolion sy’n rhan o’ch busnes.

Ond ni fyddwn yn gwarantu unrhyw beth y tu hwnt i’r materion neu’r gwasanaethau hyn yn gyffredinol.

6.2 Byddwn yn ymdrechu i gynnal a chadw’r Wefan yn ddyddiol, gan gynnwys diweddaru’r Gwasanaethau. Cofiwch na fydd y Gwasanaethau ar gael yn ystod yr amseroedd hyn. Bydd y Gwasanaethau yn hygyrch ac ar gael i Ddefnyddwyr rhwng 07:00 a 00:00. Allwn ni ddim gwarantu y bydd y Gwasanaethau ar gael y tu allan i’r oriau hyn. Byddwn yn gwneud pob ymdrech resymol i roi gwybod i chi am unrhyw amser segur wedi'i drefnu a allai effeithio ar hygyrchedd y Gwasanaethau yn ystod yr oriau gweithredu a nodwyd uchod.

6.3 Byddwn yn gwneud pob ymdrech resymol i sicrhau bod unrhyw wybodaeth, data a/neu Ddeunyddiau a gyflwynir gennych chi, ac unigolion sy’n gweithredu ar eich rhan lle bo hynny’n briodol – naill ai ar y Wefan neu fel rhan o'r Gwasanaethau – yn cael eu cynnal a’u cadw yn ddiogel a bod copi wrth gefn priodol yn cael ei wneud. Os bydd gwybodaeth, data a/neu Ddeunyddiau o’r fath yn cael eu colli neu eu difrodi, rydym yn addo y byddwn yn gwneud yr ymdrech orau bosibl i unioni hyn drwy adfer y wybodaeth, y data a/neu’r Deunyddiau sydd wedi cael eu colli neu eu difrodi o’r copi wrth gefn diweddaraf a gafodd ei wneud o'r wybodaeth, y data a/neu’r Deunyddiau. Ni fyddwn yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros drydydd parti sy’n colli, difrodi, addasu na datgelu’ch gwybodaeth, eich data a/neu’ch Deunyddiau (oni bai am y trydydd partïon sydd wedi’u his-gontractio gennym ni i gyflawni gwasanaethau mewn perthynas â chynnal a chadw eich gwybodaeth, eich data a/neu’ch Deunyddiau a gwneud copi wrth gefn ohonynt).

Yn ôl i'r brig

7. Perchnogaeth a defnyddio hawliau perchnogol

7.1 Bydd yr holl hawlfraint, nodau masnach, hawliau cronfa ddata a’r holl hawliau eiddo deallusol eraill o ran Cynnwys (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, y dyluniad, detholiad a threfn y Wefan a'r holl logos, testun a graffigwaith sydd ar y Wefan) a’r Deunyddiau wedi’u breinio ynom ni neu ein trwyddedwyr bob amser. Dim ond yn y modd a awdurdodir yn y Telerau hyn y caniateir i chi ddefnyddio’r Cynnwys a'r Deunyddiau, ac ni ddylid eu defnyddio at unrhyw ddiben arall oni bai fod hynny mewn perthynas â'ch defnydd awdurdodedig o’r Gwasanaethau. Os byddwch yn dod i wybod am unrhyw ddefnydd o'r Cynnwys neu'r Gwasanaethau sydd heb ei awdurdodi, rydych chi’n cytuno i roi gwybod i ni ar unwaith.

7.2 ACC sy’n berchen ar yr hawl i bob enw a logo ar gyfer “ACC” ac “Awdurdod Cyllid Cymru”. Dim ond yn unol ag unrhyw delerau hawlio perthnasol neu yn unol â’n caniatâd ni fel arall y cewch chi ddefnyddio’r enwau a'r logos hyn.

7.3 Mae’r Cynnwys a’r Deunyddiau yn ddarostyngedig i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Mae modd atgynhyrchu’r rhain yn rhad ac am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng cyn belled â’u bod yn cael eu hatgynhyrchu’n gywir ac nad ydynt yn cael eu defnyddio mewn cyd-destun camarweiniol. Lle bo’r Cynnwys neu’r Deunyddiau’n cael eu hailgyhoeddi neu eu copïo i eraill, rhaid nodi ffynhonnell y Deunyddiau hyn a chydnabod statws yr hawlfraint. Nid yw’r caniatâd i atgynhyrchu Deunydd a ddiogelir gan y Goron yn ymestyn i unrhyw Ddeunydd ar y wefan y nodir ei fod o dan hawlfraint trydydd parti, a rhaid cael awdurdodiad i atgynhyrchu’r Deunydd hwn gan ddeiliaid yr hawlfraint dan sylw.

7.4 Yn amodol ar y darpariaethau ym mharagraff 14, rydych chi’n rhoi trwydded fyd-eang, barhaus, di-alw’n ôl a rhydd o freindal i ni, ein trwyddedwyr a’n haseinïaid gopïo unrhyw Ddeunydd rydych chi’n ei drosglwyddo, yn ei lwytho i fyny, neu’n ei bostio ar y Wefan (heb iddo fod wedi'i drosglwyddo, ei lwytho i fyny na’i bostio yn unol ag unrhyw rwymedigaeth cyfrinachedd), yn ogystal â chyhoeddi copïau ohono, ei gyfleu i’r cyhoedd, ei ryddhau i’r cyhoedd, a’i ddefnyddio.

Yn ôl i'r brig

8. Eich gwarantau

8.1 Dim ond at eich cofrestriad ac at defnyddio’r system ffeilio ar-lein y mae adran wyth yn cyfeirio. Bydd y datganiad ynglŷn â'r wybodaeth yn unrhyw Ffurflen i'w weld ar waelod y Ffurflen.

8.2 Rydych chi’n gwarantu:

  1. bod gennych chi’r hawl, yr awdurdod a’r gallu gofynnol i ddefnyddio’r Wefan a’r Gwasanaethau (gan gynnwys yr awdurdod i gyflwyno Ffurflenni Treth neu unrhyw ffurflenni eraill, lle bo hynny’n berthnasol) ac i fod wedi’ch rhwymo gan y Telerau hyn
  2. od yr holl wybodaeth a’r manylion rydych chi wedi’u darparu i ni yn wir, yn gywir ac yn gyfredol ym mhob ffordd, bob amser
  3. byddwch yn sicrhau bod yr holl ddata a’r wybodaeth a gyflwynir ar eich rhan yn cael eu cyflwyno gan yr unigolion sy’n rhan o’ch busnes neu’r asiantau sydd â’r awdurdod priodol i wneud cyflwyniadau o’r fath, ac yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan ACC o bryd i’w gilydd
  4. byddwch yn cydymffurfio â'r Telerau hyn, gan gynnwys eich rhwymedigaethau a nodir ym mharagraff 5 uchod, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny.

Yn ôl i'r brig

9. Ymwadiad cyffredinol a chyfyngiadau ar atebolrwydd

9.1 Rydych chi’n datgan eich bod yn deall ac yn cytuno mai chi sy’n atebol am unrhyw risg sy’n gysylltiedig â’ch defnydd o’r Cynnwys, y Gwasanaethau a’r Deunyddiau. Rydyn ni’n darparu’r Wefan ar sail “fel y mae” a “phan mae ar gael” ac nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau na gwarantau o unrhyw fath mewn perthynas â’r Cynnwys, y Deunyddiau neu'r Gwasanaethau, gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, eu cywirdeb, eu hamseriad, eu dibynadwyedd, eu cyflawnder neu eu haddasrwydd ar gyfer unrhyw ddiben yng nghyswllt y wybodaeth neu'r datganiadau sydd wedi’u cynnwys ynddynt, nac ychwaith mewn perthynas â datganiadau, cynghorion na barn mae Defnyddwyr (gan gynnwys Partïon Busnes) yn eu rhoi ar y Wefan. Efallai y bydd y Cynnwys a'r Deunyddiau yn cynnwys anghywirdeb technegol neu wallau teipograffyddol.

9.2 Nid ydym yn gwarantu unrhyw beth mewn perthynas â'r Gwasanaethau, p’un ai a yw hynny’n cael ei ddatgan neu ei awgrymu, gan gynnwys y gwarantau a awgrymir ynghylch ansawdd boddhaol, addasrwydd at ddiben penodol a diffyg tarfu, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny. Yn benodol, nid ydym yn gwarantu nac yn honni:

  1. y bydd y canlyniadau a gewch wrth ddefnyddio’r Gwasanaethau yn gywir neu’n ddibynadwy
  2. y bydd ansawdd unrhyw gynnyrch, gwasanaethau, gwybodaeth neu Ddeunyddiau eraill (gan gynnwys y Deunyddiau) a gewch drwy’r Gwasanaethau yn bodloni’ch disgwyliadau.

9.3 Bydd unrhyw gynnwys sy’n cael ei lwytho i lawr neu’n cael ei gaffael mewn unrhyw ffordd arall drwy ddefnyddio’r Gwasanaethau yn cael ei wneud yn unol â’ch disgresiwn a’ch risg eich hun, ac rydych chi’n deall ac yn cytuno mai chi’n unig fydd yn gyfrifol am unrhyw ddifrod i’ch system gyfrifiadurol neu ddata sy’n cael ei golli o ganlyniad i lwytho Cynnwys o'r fath i lawr.

9.4 Rydyn ni’n eithrio i’r graddau mwyaf posibl yn ôl y gyfraith bob atebolrwydd sy’n codi o unrhyw Ddeunydd sy’n cael ei bostio, ei gyhoeddi neu ei drosglwyddo gan Ddefnyddwyr (gan gynnwys Partïon Busnes eraill) ar y Wefan). Nid ydym yn gwneud unrhyw sylwadau mewn perthynas â’r wybodaeth sy’n cael ei phostio ar y Wefan (p’un ai a yw hynny mewn perthynas â’i chywirdeb, ei digonolrwydd, ei chyflawnrwydd neu fel arall) a chi sy’n gyfrifol am geisio eich cyngor annibynnol eich hun cyn gweithredu yn ddibynnol arni, a hefyd am unrhyw ddefnydd y byddwch yn ei wneud ohoni. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw benderfyniad a wneir gan ddefnyddiwr neu Barti Busnes (gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, unrhyw drefniant cytundebol neu drefniant arall rydych chi a thrydydd parti wedi ymrwymo iddo, neu unrhyw weithgarwch all-lein rydych chi’n cymryd rhan ynddo o ganlyniad i ddefnyddio'r Wefan) mewn perthynas â’ch defnydd o’r Wefan, ac rydych chi felly’n cydnabod y byddwch yn defnyddio’r Wefan yn unol â’ch disgresiwn a’ch risg eich hun.

9.5 Nid ydym yn derbyn atebolrwydd am unrhyw gyfathrebiadau na defnydd arall o'r Wefan gan bobl sydd o dan ddeunaw (18) oed, neu bobl sydd ddim â'r hawl, yr awdurdod, na’r gallu gofynnol i ddefnyddio'r Wefan neu i fod wedi’u rhwymo gan y Telerau hyn, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, unrhyw wybodaeth a gafodd ei llwytho i fyny i’r Wefan gan asiantau a/neu unigolion sy’n rhan o’ch busnes, heb eich awdurdod.

9.6 Nid ydym ni na’n gweithwyr, ein hasiantau na chynrychiolwyr eraill yn atebol, o ran contract, camwedd, esgeulustod nac unrhyw beth arall, am unrhyw beth sy’n cael ei golli neu ei ddifrodi, p’un ai a yw hynny’n codi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o’ch defnydd o’r Wefan neu mewn cysylltiad â hynny. Mae hwn yn gyfyngiad ar atebolrwydd sy’n berthnasol i ddifrod o unrhyw fath, gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, ddifrod i galedwedd neu feddalwedd, colli busnes, colli elw, colli data, incwm neu elw, digollediad, difrod uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol, eiddo sy’n cael ei ddifrodi neu ei golli a hawliadau trydydd partïon.

9.7 Nid yw’n fwriad gan yr un o'r eithriadau a'r cyfyngiadau yn y Telerau hyn i gyfyngu ar hawliau statudol nad oes modd eu heithrio, nac i eithrio neu gyfyngu ar ein hatebolrwydd i chi yng nghyswllt camliwio twyllodrus, neu farwolaeth neu niwed personol o ganlyniad i’n hesgeulustod ni, ein gweithwyr neu’n hasiantau.

9.8 Bydd pob un o’r eithriadau a/neu’r cyfyngiadau uchod ynglŷn ag atebolrwydd yn cael eu dehongli fel darpariaethau terfynadwy sydd ar wahân i’r Telerau hyn.

9.9 Nid yw rhai awdurdodaethau yn caniatáu i rai gwarantau penodol gael eu heithrio, nac i atebolrwydd am ddifrod damweiniol neu ganlyniadol gael ei gyfyngu neu ei eithrio. Yn unol â hynny, efallai na fydd rhai o'r cyfyngiadau a’r eithriadau yn y Telerau hyn yn berthnasol i chi.

Yn ôl i'r brig

10. Indemniad

10.1 Rydych chi’n cytuno i’n hindemnio a’n gwarchod ni rhag unrhyw hawliad neu iawndal (gan gynnwys ffioedd cyfreithiol mewn perthynas â’r un agweddau) gan drydydd parti yng nghyswllt unrhyw fater sy’n ymwneud â’r defnydd o’r Wefan a/neu’r Gwasanaethau a/neu’ch statws fel Parti Busnes neu Ddefnyddiwr y Wefan, neu fater sy’n codi o ganlyniad i chi’n torri’r Telerau hyn, yn torri unrhyw gyfraith, neu hawliau unrhyw drydydd parti.

Yn ôl i'r brig

11. Defnyddio, addasu, atal dros dro a therfynu'r gwasanaethau

11.1 Cewch ganslo eich cofrestriad ar unrhyw adeg drwy ddilyn y cyfarwyddiadau a ddarperir ar y Wefan.

11.2 Rydyn ni’n cadw’r hawl i wneud y canlynol yn unol â’n disgresiwn ni ein hunain, ar unrhyw adeg ac o bryd i’w gilydd, gyda rhybudd neu heb rybudd:

  1. gwrthod i Ddefnyddwyr gael mynediad i'r Wefan, neu ran ohoni, a gwrthod darparu’r Gwasanaethau i unrhyw Ddefnyddiwr sy’n torri amodau’r Telerau hyn
  2. addasu neu derfynu'r Gwasanaethau (neu ran ohonynt), neu’ch defnydd o’r Gwasanaethau, dros dro neu’n barhaol. Rydych chi’n cytuno na fyddwn ni’n atebol i chi nac unrhyw drydydd parti am unrhyw achos o addasu, atal dros dro neu derfynu’r Gwasanaethau
  3. canslo’ch cofrestriad a/neu ddiddymu'ch hawl i ddefnyddio’r Gwasanaethau a/neu’r Deunyddiau (neu unrhyw ran ohonynt). Rydych chi’n cytuno na fyddwn ni’n atebol i chi nac unrhyw drydydd parti am unrhyw achos o ganslo neu ddiddymu.

11.3 Mae ein hawliau o dan y paragraff hwn (11) yn ychwanegol at ein holl hawliau a rhwymedïau eraill o dan y Telerau hyn neu fel arall.

11.4 Rydyn ni’n cadw'r hawl i adolygu, addasu neu ddiweddaru’r Wefan, y Cynnwys, y Deunyddiau, y Gwasanaethau a/neu’r Telerau hyn ac rydych chi’n cytuno i gadw at y newidiadau, yr addasiadau neu’r diweddariadau hyn sy’n cael eu cyhoeddi ar y Wefan. Drwy ddal ati i ddefnyddio'r Wefan ar ôl i adolygiadau, addasiadau neu ddiweddariadau o’r fath gael eu cyhoeddi, byddwch yn hysbysu'n ffurfiol eich bod yn cytuno i fod wedi'ch rhwymo gan y diwygiadau hynny. Chi sy’n gyfrifol am edrych yn rheolaidd ar y Wefan a’r Telerau hyn i weld a oes unrhyw newidiadau, addasiadau neu ddiweddariadau.

Yn ôl i'r brig

12. Defnyddio a storio

12.1 Rydych chi’n cytuno nad ydym yn gyfrifol nac yn atebol am ddileu neu fethu storio unrhyw negeseuon a chyfathrebiadau eraill sy’n cael eu cynnal neu eu trosglwyddo fel rhan o’r Gwasanaethau. Rydych chi hefyd yn cydnabod ein bod yn cadw'r hawl i newid yr arferion cyffredinol hyn yn unol â’n disgresiwn ein hunain, gyda rhybudd neu heb rybudd.

Yn ôl i'r brig

13. Cysylltiadau â thrydydd partïon

13.1 O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn darparu dolenni o'r Wefan i wefannau trydydd parti. Ni fyddwn yn atebol o gwbl ac ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylwadau, gwarantau, argymhellion nac ardystiadau mewn cysylltiad ag argaeledd gwefannau trydydd parti o’r fath, nac unrhyw gynnwys, hysbysebion, cynnyrch neu Wasanaethau sydd ar y gwefannau dan sylw, neu sydd ar gael ohonynt.

13.2 Drwy gynnig y dolenni y cyfeirir atynt uchod, nid ydym yn ardystio unrhyw beth sydd ar y gwefannau dan sylw, naill ai drwy awgrymu neu ddatgan hynny, nac ychwaith yn cadarnhau unrhyw gysylltiad â gweithredwyr y gwefannau hyn. Rydym yn datgan yn ffurfiol ein bod yn eithrio pob atebolrwydd am unrhyw Ddeunydd anghywir, tramgwyddus, difenwol neu anweddus sy’n ymddangos ar y gwefannau trydydd parti hyn.

Yn ôl i'r brig

14. Polisi preifatrwydd a diogelu data

14.1 Rydyn ni’n cymryd pob cam rhesymol i ddiogelu unrhyw wybodaeth rydych chi’n ei chyflwyno i ni, naill ai ar-lein drwy’r Wefan neu all-lein, yn unol â deddfwriaeth fel y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (“GDPR”). Nid ydym yn rhannu, yn gwerthu nac yn rhentu’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu i unrhyw berson, cwmni neu sefydliad mewn unrhyw ffordd oni nodir fel arall yn y Telerau hyn (gan gynnwys paragraffau 15 ac 16 isod, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny) neu yn unol â gofynion ein polisïau mewnol. Mae ACC wedi cofrestru fel rheolydd data gyda’r Comisiynydd Gwybodaeth o dan y rhif ZA293632.

14.2 Yn ystod y broses gofrestru, neu ar unrhyw adeg ar ôl hynny lle byddwch yn ateb cwestiynau, efallai y byddwn yn casglu ac yn prosesu gwybodaeth bersonol gennych chi, gan asiantau a/neu gan unigolion sy’n rhan o’ch busnes – fel enwau, cyfeiriadau e-bost, cyfeiriadau cartref a rhifau ffôn cyswllt. Efallai y byddwn yn defnyddio gwybodaeth rydym wedi'i chasglu i wella ac i redeg y Wefan, i gynnal gohebiaeth gyda chi a’ch Cysylltiadau, i ddarparu ystadegau am ddefnydd, at ddibenion ACC ac at unrhyw ddiben arall y byddwch yn cydsynio iddo. Drwy ddatgelu gwybodaeth bersonol i ni, rydych chi, unigolion sy’n rhan o’ch busnes, eich asiantau a/neu’ch Cysylltiadau yn rhoi caniatâd i ni gasglu, storio a phrosesu gwybodaeth yn unol â’r Telerau hyn.

14.3 Rydyn ni’n dilyn mesurau diogelwch priodol wrth storio gwybodaeth bersonol er mwyn rhwystro trydydd partïon rhag cael mynediad ati heb awdurdod. Fodd bynnag, nid yw’r Rhyngrwyd yn gyfrwng cwbl ddiogel ac rydych chi’n cytuno na fyddwn ni, i’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith, yn gyfrifol am unrhyw achos o ddosbarthu, difrodi neu ddinistrio data personol, na’i ddefnyddio heb awdurdod.

14.4 Byddwn yn ymdrechu i sicrhau bod ein darparwyr gwasanaeth, ein his-gontractwyr a’n hasiantau sy’n rhan o’r gwaith o gyflenwi’r Gwasanaethau (unrhyw un ohonynt), yn ogystal â chontractwyr trydydd parti rydym wedi’u defnyddio i’n cynghori ni neu i addasu'r broses o weithredu'r Wefan, yn cydymffurfio â’r Ddeddf.

14.5

Mae Gwasanaethau Ar-lein ACC yn storio ffeiliau testun bach o'r enw “cwcis” ar eich cyfrifiadur neu’ch dyfais (e.e. dyfais tabled neu ffôn symudol) pan fyddwch wedi mewngofnodi i’r gwasanaeth. Yr enw a roddir ar y rhain yw “Cwcis Sesiwn” ac maen nhw’n cynnwys gwybodaeth sy’n caniatáu i ACC Ar-lein eich adnabod pan fyddwch yn defnyddio’r wefan ac yn symud o dudalen i dudalen. Maen nhw’n cael eu dinistrio pan fyddwch chi’n allgofnodi neu’n cau eich porwr. 

Hefyd, mae Gwasanaethau Ar-lein ACC yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi gwe a ddarperir gan Google Inc. (“Google”), i gasglu gwybodaeth am sut rydych chi’n defnyddio Gwasanaethau Ar-lein ACC. Rydym yn gwneud hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod y wefan yn diwallu anghenion ei defnyddwyr, ac er mwyn helpu i’w gwella. Mae Google Analytics yn defnyddio “cwcis” a chod JavaScript i ddadansoddi gweithgarwch defnyddwyr ar wefannau. Caiff y cwcis hyn eu dinistrio yn unol â'r amseroedd dod i ben a nodir isod yn adran. 

Hefyd, mae ACC Ar-lein yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi gwe a ddarperir gan Google Inc. (“Google”), i gasglu gwybodaeth am sut rydych chi’n defnyddio ACC Ar-lein. Rydym yn gwneud hyn er mwyn gwneud yn siŵr bod y wefan yn diwallu anghenion ei defnyddwyr, ac er mwyn helpu i’w gwella. Mae Google Analytics yn defnyddio “cwcis” a chod JavaScript i ddadansoddi gweithgarwch defnyddwyr ar wefannau. Caiff y cwcis hyn eu dinistrio yn unol â'r amseroedd dod i ben a nodir isod yn adran.

14.6 Bydd y wybodaeth sy’n cael ei chreu ynghylch eich defnydd o'r wefan (gan gynnwys eich cyfeiriad IP) yn cael ei drosglwyddo i weinyddion Google yn yr Unol Daleithiau ac yn cael ei storio arnynt. Ni fydd Google yn cysylltu’ch cyfeiriad IP ag unrhyw ddata personol sydd wedi'i gadw yn flaenorol, ac ni fyddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol chi iddyn nhw (e.e. eich enw neu’ch cyfeiriad) felly nid oes modd defnyddio’r wybodaeth hon i'ch adnabod chi. Nid ydym chwaith yn caniatáu i Google ddefnyddio na rhannu ein data dadansoddi (oni bai ei bod yn ofynnol gwneud hynny yn ôl y gyfraith, neu pan fydd trydydd partïon yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google). Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych chi’n rhoi caniatâd i Google brosesu data amdanoch chi yn unol â’r dulliau a’r dibenion a nodir uchod. 

Er ei bod yn bosib i chi newid gosodiadau’ch porwr i beidio â derbyn cwcis, mae’r rhain yn angenrheidiol er mwyn i Wasanaethau Ar-lein ACC weithio felly ni allwch ddefnyddio Gwasanaethau Ar-lein ACC heb gwcis. 

Gallwch optio allan o Google Analytics drwy lawrlwytho a gosod yr adnodd “Google Analytics Opt-out Browser Add-on”, sydd ar gael ar wefan Google.

14.8 Ceir disgrifiad o’r cwcis mae Gwasanaethau Ar-lein ACC yn eu defnyddio isod:

Version 1.00 13 Cwci Diben Amser dod i ben
JSESSIONID Cyfuniad ar hap o lythrennau a rhifau - caiff ei ddefnyddio i gynnal y sesiwn ACC Ar-lein bresennol. Pan fydd eich porwr yn cau neu pan fyddwch yn allgofnodi
WasSamlSpReqURL Cyfeiriad gwe (URL) sy’n dangos lle dylai'r porwr gael ei gyfeirio pan fydd y defnyddiwr wedi mewngofnodi. Pan fydd eich porwr yn cau neu pan fyddwch yn allgofnodi
LtpaToken2 Mae’n cynnwys gwerth a ddefnyddir gan ACC Ar-lein i gynnal y sesiwn. Pan fydd eich porwr yn cau neu pan fyddwch yn allgofnodi
_ga Caiff ei ddefnyddio i adnabod defnyddwyr 2 flynedd
_gid Caiff ei ddefnyddio i adnabod defnyddwyr 24 awr
_gat Caiff ei ddefnyddio i gyfyngu cyfradd y ceisiadau 1 munud
_utma Mae’n pennu nifer yr unigolion sy’n ymweld ag ACC Ar-lein 2 flynedd
_utmb Mae hwn yn gweithio gyda _utmc i gyfrifo’r amser cyfartalog rydych chi’n ei dreulio ar ACC Ar-lein. 30 munud
_utmc Mae hwn yn gweithio gyda _utmb i ganfod pryd rydych chi’n cau’r porwr. Pan fyddwch chi’n cau’r porwr
_utmz Mae hwn yn darparu gwybodaeth am sut gwnaethoch chi gyrraedd ACC Ar-lein (e.e. o wefan arall neu beiriant chwilio) 6 mis
.AspNetCore.Antiforgery Mae angen hwn i gefnogi'r broses o roi amddiffyniad Cross Site Request Forgery (CSRF) ar waith Sesiwn
.AspNetCore.Session Cwci adnabod sesiwn safonol ar gyfer rhaglenni gwe. Caiff ei ddefnyddio i adnabod y sesiwn. Sesiwn
ARRAffinity Caiff ei ddefnyddio gan Azure i sicrhau cydweddiad sesiwn (llwybro ceisiadau i weinydd rhaglenni gwe sylfaenol a chyson yn ystod sesiwn) Sesiwn
.AspNetCore.Culture Adnabod dewis iaith defnyddwyr allanol. 1 flwyddyn
AMP_TOKEN Mae’n cynnwys tocyn y mae modd ei ddefnyddio i adalw ID Cleient o wasanaeth ID Cleient AMP. Prosiect gan Google yw AMP (Tudalennau Symudol wedi’u Cyflymu) ac nid yw’n cael ei ddefnyddio ar gyfer y prosiect hwn felly ni fydd y cwci hwn yn cael ei ddefnyddio. Rhwng 30 eiliad a blwyddyn
_gac_<property-id> Mae’n cynnwys gwybodaeth gysylltiedig ag ymgyrch ar gyfer y defnyddiwr. Os ydych chi wedi cysylltu’ch cyfrifon Google Analytics ac AdWords, bydd tagiau trosi gwefan AdWords yn darllen y cwci hwn. Does dim disgwyl y bydd ACC yn cysylltu eu cyfrifon Google Analytics ac AdWords felly ni fydd y cwci hwn yn cael ei ddefnyddio. 90 diwrnod

Yn ôl i'r brig

15. Hygyrchedd

15.1 Mae Gwasanaethau Ar-lein ACC yn ystyried defnyddwyr sy’n ddall neu â nam ar y golwg ac maent yn gydnaws â meddalwedd darllen sgrin poblogaidd. Mae hygyrchedd gwasanaethau ar-lein ACC yn dilyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe 1.0 gan Gonsortiwm y We Fyd-Eang (W3C) ac yn gweithio gydag awduron y cynnwys, datblygwyr a sefydliadau anabledd i fodloni’r safon AA.

Yn ôl i'r brig