Amdanom ni
Rydym yn rheoli 2 dreth ddatganoledig a ddyluniwyd ac a grëwyd ar gyfer Cymru er mwyn helpu i godi arian hanfodol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru fel y GIG ac ysgolion, mewn cymunedau ledled Cymru.
Cynnwys
Ers 1 Ebrill 2018, rydym wedi casglu a rheoli 2 dreth ddatganoledig ar ran Llywodraeth Cymru:
Disodlodd y trethi hyn Dreth Dir y Dreth Stamp a'r Dreth Dirlenwi yng Nghymru.
Ein diben cyffredinol yw:
- dylunio a darparu gwasanaethau refeniw cenedlaethol Cymru
- arwain y gwell defnydd o ddata trethdalwyr Cymru ar gyfer Cymru
Sut rydym yn gweithio gyda'n cwsmeriaid
Ein Dull
Rydym wedi ymrwymo i helpu i ddarparu system dreth deg i Gymru drwy 'Ein Dull', sy’n ffordd Gymreig o drethu. Trwy gydweithio â chyfreithwyr a thrawsgludwyr, partneriaid, trethdalwyr a'r cyhoedd, rydym yn sicrhau bod trethi’n cael eu casglu'n effeithlon ac yn effeithiol.
Mae tri therm yn diffinio ‘Ein Dull’:
- Cydweithio sydd ag ymdeimlad o weithio tuag at nod cyffredin.
- Cadarnhau sy’n awgrymu cadernid y gellir dibynnu arno. Mae hyn yn ymwneud â darparu sicrwydd, bod yn gywir ac atgyfnerthu ymddiriedaeth
- Cywiro sy’n ymwneud â'r ffordd rydym yn cydweithio â chi er mwyn datrys gwallau neu bryderon.
Ysbrydolir y dull hwn gan 'Ein Siarter' sy’n seiliedig ar ein gwerthoedd a'n hymddygiadau er mwyn adlewyrchu sut rydym yn gweithio:
- gyda’n gilydd
- gyda’n trethdalwyr
- gyda chynrychiolwyr
- gyda sefydliadau partner
Canllawiau a gwasanaethau
Rydym yn dylunio, yn datblygu ac yn darparu gwasanaethau treth digidol yn gyntaf dwyieithog, di-bapur er mwyn diwallu anghenion pobl ledled Cymru.
Mae ein harbenigwyr yn cynnig cymorth, arweiniad a sicrwydd pwrpasol o'r dechrau i’r diwedd er mwyn helpu pobl dalu'r dreth iawn ar yr adeg iawn.
Dysgwch fwy am ein canllawiau a'n gwasanaethau.
Ym mis Mawrth 2023, gofynnodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ni archwilio sut i weithredu ardoll ymwelwyr i Gymru. Darllenwch fwy am ein gwaith darganfod ardoll ymwelwyr.
Rydym hefyd yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi Treth Gwarediadau Tirlenwi.
Sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd?
Ein pobl a'n gwerthoedd
Rydym yn sefydliad digidol, data-alluog, ‘wedi’i arwain gan bobl’, gyda dros 80 aelod o staff. Mae ein talent, ein sgiliau a'n profiad yn ymwneud â 14 o wahanol broffesiynau
Ar ein gorau, rydym yn cydweithio mewn ffordd sy'n arloesol, yn gydweithredol ac yn garedig.
Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac yn falch o fod:
- yn gyflogwr Cyflog Byw
- yn gyflogwr Hyderus o ran Anabledd - 'Arweinydd' Lefel 3.
- yn gyflogwr 'Hapus i Siarad am Weithio Hyblyg'
- wedi ymrwymo i addewid Dim Hiliaeth Cymru
Gallwch ddysgu mwy am weithio gyda ni yn ein Harolwg Pobl.
Ein blaenoriaethau
Rydym yn seilio popeth a wnawn ar ein Cynllun Corfforaethol 2022 i 2025. Mae hwn yn gosod ein diben, ein hamcanion strategol a'n huchelgeisiau tymor hwy.
Rydym yn adrodd ar ein gwaith yn flynyddol. Gweler ein:
- adroddiad blynyddol a’n cyfrifon diweddaraf
- adroddiad cydraddoldeb blynyddol ac amcanion strategol diweddaraf
Gwybodaeth gorfforaethol
- Swyddi a chyflogaeth
- Sut rydym yn rheoli gwybodaeth
- Ein hystadegau
- Gwariant
- Ein cytundeb â Llywodraeth Cymru
- Cysylltu â ni
I gael rhagor o wybodaeth am y mathau o wybodaeth a gyhoeddir gennym, gweler ein cynllun cyhoeddi.