Neidio i'r prif gynnwy
Dyfed Alsop

Dyfed Alsop yw Prif Weithredwr cyntaf Awdurdod Cyllid Cymru.

Bu Dyfed yn gweithio i HSBC am nifer o flynyddoedd yng Nghymru ac yn rhyngwladol yn Sbaen, yr Ariannin a Brasil cyn ymuno â'r Gwasanaeth Sifil. Dechreuodd Dyfed ei yrfa yn y gwasanaeth sifil fel Ymgynghorydd Economaidd yn Nhollau Tramor a Chartref EM yn 2001. Yna symudodd i swydd polisi yn Nhrysorlys ei Mawrhydi cyn ymuno â Chyllid a Thollau EM yn 2003 lle bu’n gweithio yn yr Uned Strategaeth ac yn y gyfarwyddiaeth Gwybodaeth, Dadansoddi a Chudd-wybodaeth.

O 2009, arweiniodd nifer o rolau ar lefel bwrdd yn Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA), gan gynnwys Adnoddau Dynol a Newid, ac yn fwy diweddar fel Prif Swyddog Strategaeth. Tra yn y VOA, cynlluniodd a gweithredodd raglenni newid mawr gan gynnwys diwygiadau sylweddol i'r system drethi lleol. Mae Dyfed wedi gweithio fel Cyfarwyddwr Gweithredu Awdurdod Cyllid Cymru ers mis Awst 2016.

Yn siaradwr Cymraeg rhugl o ogledd Cymru, astudiodd Dyfed ym Mhrifysgol Cymru yn Abertawe.