Neidio i'r prif gynnwy

Cysylltwch ag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ynglŷn â’r Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Desg gymorth

Ar gyfer ymholiadau gan gwsmeriaid am y Dreth Trafodiadau Tir neu'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi:

  • ffoniwch 03000 254 000 (dydd Llun i ddydd Gwener, 10am tan 3pm). Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg
  • cwblhewch ein ffurflen gysylltu ar-lein

Ar gyfer ymholiadau treth incwm, cysylltwch â CThEM.

Os byddwch yn ein ffonio, efallai y byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen ar-lein er mwyn i ni allu eich helpu’n fwy effeithiol.

Nodwch ein bod yn darparu canllawiau ar reolau treth a byddwn yn rhoi opiniwn mewn rhai achosion os gofynnir amdano drwy ein gwasanaeth opiniwn treth. Ond ni allwn roi cyngor ar dreth i chi.

Anawsterau ariannol a chymorth ychwanegol

Os ydych chi’n cael anawsterau talu neu’n disgwyl cael anawsterau talu neu os oes angen help neu gymorth ychwanegol arnoch er mwyn defnyddio ein gwasanaethau, cysylltwch â ni. Rydym ni yma i helpu.

Gallwch hefyd awdurdodi rhywun i weithredu ar eich rhan.

Post

Awdurdod Cyllid Cymru

Blwch Postio 108
Merthyr Tudful
CF47 7DL

Ar 3 Ebrill 2023, newidiodd ein cyfeiriad post i: Awdurdod Cyllid Cymru, Blwch Postio 108, Merthyr Tudful, CF47 7DL.

Rydym yn argymell defnyddio ein ffurflen gyswllt ar-lein i anfon gohebiaeth atom ni. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.

Opiniwn treth

Gweler ein canllawiau ar sut i ofyn am opiniwn treth

Fel arfer byddwn yn ymateb i gais am opiniwn treth o fewn 25 diwrnod gwaith, yn dibynnu ar gymhlethdod yr achos.

Cyfryngau

Ymholiadau gan y cyfryngau:

Ffôn: 03000 254 770
E-bost: newyddion@acc.llyw.cymru

Adborth

Rydym wedi ymrwymo i adolygu a gwella ein gwasanaethau. Mae eich adborth yn bwysig i ni ac rydym yn gweithredu ar yr holl adborth yr ydym yn ei dderbyn.

Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein i roi adborth os gwelwch yn dda.

Ystadegau

Rydym yn croesawu ymholiadau ac adborth ar ein hystadegau swyddogol.

E-bost: data@acc.llyw.cymru
Ffôn: 0300 025 4670 (Pennaeth Dadansoddi Data)

Tîm Dadansoddi Data
Awdurdod Cyllid Cymru
Blwch Postio 108
Merthyr Tudful
CF47 7DL

Cwynion

Os ydych yn anhapus ynglŷn â’r gwasanaeth rydych chi’n ei dderbyn neu rywbeth arall, y ffordd hawsaf o ddatrys y peth yw drwy gysylltu â ni. Byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.

Gweler ein canllawiau ar sut i wneud cwyn a sut rydym yn ymateb.

Mae gennym ganllawiau hefyd ar beth i'w wneud os ydych yn anghytuno â'n penderfyniad treth.

Ceisiadau am wybodaeth

Darganfyddwch sut i wneud cais rhyddid gwybodaeth.

I ofyn am wybodaeth bersonol y gallwn fod yn ei chadw amdanoch chi, o dan gais gwrthrych am wybodaeth, ysgrifennwch atom os gwelwch yn dda.

Ar gyfer ymholiadau diogelu data:

E-bost: data@acc.llyw.cymru

Swyddog Diogelu Data
Awdurdod Cyllid Cymru
Blwch Postio 108
Merthyr Tudful
CF47 7DL

Adrodd am osgoi neu efadu treth

Cwblhewch ein ffurflen ar-lein i roi gwybod am osgoi neu efadu treth a amheuir. Gweler ein canllawiau ar sut i roi gwybod am osgoi ac efadu treth a ffyrdd eraill o gysylltu â ni.

Os oes gennych rywbeth o'i le ar eich ffurflen dreth o ganlyniad i gynllun osgoi neu efadu, ffoniwch ni ar 03000 254 000.

Gwe-rwydo a sgamiau sy'n gysylltiedig â threth

Dywedwch wrthym bob amser am wefannau camarweiniol, negeseuon e-bost, rhifau ffôn, galwadau ffôn neu negeseuon testun y credwch y gallent fod yn rhai amheus.

Gweler ein canllawiau ar sut i osgoi ac adrodd am we-rwydo a sgamiau sy'n gysylltiedig â threth wrth gyfathrebu â ni.

Ebost: diogelwch@acc.llyw.cymru

Chwythu’r chwiban

E-bostiwch ni ar chwythurchwiban@acc.llyw.cymru i fynegi pryder o dan gyfraith chwythu'r chwiban. Am ganllawiau a ffyrdd eraill o gysylltu â ni, gweler ein tudalen chwythu'r chwiban.