Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw’r Ardal Triniaeth Ddwys, ac ym mhle y mae'r Ardal hon?

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw'r Ardal Triniaeth Ddwys?

Mae'r Ardal hon yng ngorllewin Cymru lle'r ydym wedi cyflwyno mesurau ychwanegol i ymdrin â TB buchol.

Rydym yn mynd i'r afael â phob achos o TB buchol mewn rhywogaethau domestig ac anifeiliaid gwyllt. Ein nod yw cael gwared ar y clefyd mewn gwartheg lleol.

Ble mae'r Ardal Triniaeth Ddwys?

Mae'r Ardal hon yng ngogledd Sir Benfro, ond mae'n cynnwys ardaloedd bach yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin. Mae gan yr ardal:

  • un o'r cyfraddau uchaf o achosion o TB buchol yng Nghymru
  • cyfran uwch o wartheg sy'n ymateb i brawf TB
  • ffermydd gwartheg sy'n dueddol o fod yn ddarostyngedig i gyfyngiadau symud hirach nag ardaloedd eraill
  • moch daear sy'n dioddef o TB
  • ac mae’r ardal yn gyfrifol am gyfran sylweddol o’r costau iawndal cenedlaethol ar gyfer TB.

Mae ffermio cig eidion a llaeth yn ddiwydiannau pwysig yn yr ardal hon, felly gall TB buchol fod yn niweidiol iawn.

Beth rydyn ni’n ei wneud?

Rydym wedi cyflwyno amrywiaeth o fesurau i leihau lefel yr haint ym mhob rhywogaeth yn yr ardal. Mae'r mesurau hyn yn cynnwys:

  • dulliau llymach o reoli gwartheg
  • gwell mesurau bioddiogelwch
  • cynnal profion ar eifr a chamelidau
  • brechu moch daear

Cyflwynwyd mwy o ddulliau rheoli a chadw gwyliadwriaeth ar 1 Mai 2010. Mae pob un sy'n cadw gwartheg yn yr ardal hefyd yn cymryd rhan mewn prosiect i wella bioddiogelwch ar eu ffermydd. Mae dros 5,000 o frechlynnau wedi'u rhoi i foch daear.