Neidio i'r prif gynnwy

Aelodaeth a chylch gorchwyl gweithio Grŵp Cynghorol Llywodraeth Cymru Ar Drethi.

1. Cefndir

1.1 Sefydlwyd y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru gan Lywodraeth y DU i adolygu’r trefniadau ariannol a chyfansoddiadol yng Nghymru. Cyhoeddwyd adroddiad cyntaf y Comisiwn, ar ddatganoli pwerau cyllidol, ym mis Tachwedd 2012. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ym mis Tachwedd 2013 y byddai'n gweithredu 31 o’r 33 o argymhellion. Yn dilyn hynny, cafwyd darpariaeth yn Neddf Cymru 2014 ar gyfer datganoli’r dreth dirlenwi a threth dir y dreth stamp yn llawn, datganoli treth incwm yn rhannol, a chreu trethi newydd (yn amodol ar gytundeb y Cynulliad Cenedlaethol a Senedd y DU), ynghyd â phwerau benthyca i Lywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddiad cyfalaf ac i reoli unrhyw anwadalrwydd yn ymwneud â refeniw trethi Cymru.

2. Cyflwyniad

2.1 Prif bwrpas Grŵp Cynghorol Cymru ar Drethi yw darparu cyngor strategol i Weinidogion Llywodraeth Cymru ar faterion polisi a gweinyddu trethi ac effaith y rhain ar bobl Cymru. Cadeirydd y Grŵp fydd Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, a bydd y grŵp yn atebol iddo.

2.2 Enw’r grŵp yw Grŵp Cynghorol Cymru ar Drethi.

2.3 Mae’n bwysig bod ystod eang o safbwyntiau’n cael eu cynrychioli o fewn y Grŵp i ddatblygu polisi a gweinyddu trethi gan fod Llywodraeth Cymru am fod mor agored a thryloyw â phosibl, gan sicrhau bod polisi a gweinyddu trethi yn diwallu anghenion pobl Cymru.

3. Cylch Gwaith

3.1 Cylch gwaith y Grŵp Cynghorol ar Drethi yw:

  • rhoi cyngor a chymorth i ddatblygu polisi a gweinyddu trethi yng Nghymru
  • rhoi cyngor ar yr effaith ehangach y mae polisi trethi Cymru yn ei chael ar randdeiliaid yng Nghymru, a
  • helpu i wella cyfathrebu ar draws ystod o randdeiliaid o ran polisi a gweinyddu trethi er mwyn rhoi gwybodaeth well am ymgynghoriadau a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ar Drethi.

4. Aelodaeth

4.1 Bydd aelodaeth y Grŵp Cynghorol Cymru ar Drethi yn cynnwys:

Cadeirydd

  • Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd

Aelodau

  • Andrew Evans – Geldards LLP
  • Ben Francis – Ffederasiwn Busnesau Bach
  • Frank Haskew – Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr
  • Y Cynghorydd Anthony Hunt – Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Robert Lloyd Griffiths – Sefydliad y Cyfarwyddwyr
  • Martin Mansfield – TUC, Cymru
  • Ruth Marks – Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • David Phillips – Sefydliad Astudiaethau Cyllid
  • Kay Powell – Cymdeithas y Cyfreithwyr
  • Ian Price – CBI Cymru
  • Leighton Reed – Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr
  • Dr Victoria Winckler - Sefydliad Bevan

Swyddogion yn bresennol

  • Andrew Jeffreys – Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru
  • Dyfed Alsop – Prif Weithredwr, Awdurdod Cyllid Cymru
  • Andy Fraser – Dirprwy Gyfarwyddwr Dros Dro, Drethi: Polisi, Strategaeth ac Ymgysylltu
  • Debra Carter – Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid Strategol Llywodraeth Leol

5. Trefniadau gwaith

5.1 Mae'r grŵp yn atebol i Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd ac yn adrodd iddo. Cynhaliwyd cyfarfod cychwynnol y grŵp ym mis Mawrth 2014 ac mae'n cyfarfod o leiaf dwywaith a ddim mwy na thair gwaith y flwyddyn.

5.2 Bydd yr Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd yn gallu gwahodd cynghorwyr arbenigol i fynychu cyfarfodydd i ddelio â materion penodol yn ôl yr angen. Gall aelodau’r Grŵp enwebu cynghorwyr os dymunant, ond yr Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd gaiff benderfynu’n derfynol a fyddant yn mynychu neu beidio.

5.3 Disgwylir i bob aelod fynychu pob cyfarfod. Os na all aelod fod yn bresennol, caiff dirprwy fynychu yn ei le at yr amod y rhoddir rhybudd rhesymol i’r Ysgrifenyddiaeth.

5.4 Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu rhaglen waith fel sylfaen ar gyfer datblygu polisi trethi. Bydd deialog gyda a rhwng aelodau'r grŵp yn helpu i ddatblygu'r agenda drethi yng Nghymru.