Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw bydd 10fed adroddiad blynyddol Cyflwr yr Ystad gan Lywodraeth Cymru, sy’n disgrifio effeithlonrwydd a pherfformiad amgylcheddol yr ystad weinyddol yn ystod blwyddyn ariannol 1 Ebrill 2017 - 31 Mawrth 2018, yn cael ei gyhoeddi.

Rydym yn parhau i weithredu o dan gysgod hir y cyni a bennwyd gan bolisïau Llywodraeth y DU - y cyfnod hiraf o gyni mewn cof. Erbyn diwedd y ddegawd, bydd Llywodraeth Cymru wedi gweld gostyngiad o 5% mewn termau real yn y gwariant ar wasanaethau cyhoeddus o ddydd i ddydd.

Yr ystad weinyddol yw un o'r meysydd hynny lle y gall gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wella cynhyrchiant a chreu arbedion i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau gwell a Chymru sy'n fwy ffyniannus yn y pen draw.

Mae'r Strategaeth Leoli (2015-20) yn gwneud ymrwymiad i wasgaru presenoldeb Llywodraeth Cymru ledled Cymru i gefnogi'r nodau hyn a sicrhau bod gan gymunedau lleol fynediad at swyddi a gwasanaethau'r llywodraeth. Rydym wedi ymrwymo i'r egwyddor graidd hon, ac rydym wedi agor swyddfeydd newydd yng Nghaernarfon yn ddiweddar.  

Mae gan Lywodraeth Cymru bellach swyddfeydd mawr a modern ym Merthyr Tudful, Aberystwyth, Caerfyrddin, Abertawe, Caernarfon, Cyffordd Llandudno a Chaerdydd. Nid oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i newid y lleoliadau hyn; fodd bynnag byddwn yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer y dyfodol ym Mhowys a Chymoedd De Cymru.

Mae perfformiad amgylcheddol yr ystad yn parhau i wella. Rydym wedi sicrhau gostyngiad o 36.7% yn swm y gwastraff a gynhyrchwyd gennym gyda 88% o wastraff yn cael ei ailgylchu. Mae allyriadau carbon wedi gostwng 14.1% arall ac mae'r defnydd o ddŵr wedi gostwng 11.28%.

Mae gostyngiadau pellach ym maint yr ystad a chyflwyno biomas yn Rhyd-y-car, Merthyr Tudful yn dangos ein hymrwymiad parhaus i wella effeithlonrwydd ein hadnoddau ymhellach ac i wella cynaliadwyedd amgylcheddol yn y dyfodol.

Gwelwyd nifer o heriau yn 2017-18. Er ein bod wedi lleihau nifer yr eiddo a maint yr ystad yn gyffredinol, nid yw hynny'n wedi bod yn ddigon i wrthbwyso cynnydd cyffredinol mewn costau rhedeg. Mae costau cynyddol wedi cael effaith niweidiol ar ein mesurau effeithlonrwydd o ran cost.

Ar 31 Mawrth 2018 cost ystad Llywodraeth Cymru ar gyfartaledd oedd £230.02 fesul metr sgwâr a £3, 576 fesul gweithiwr llawn amser. Mae'r ffigwr yn llai o'i gymharu â'r ffigurau cymharol sydd ar gael ar gyfer Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban.

Bydd swyddfeydd sydd eisoes wedi'u cau yn ystod blwyddyn ariannol 2018-19 yn lleihau maint yr ystad o ryw 2,750 o fetrau sgwâr, gan arbed £632,555 pellach y flwyddyn ar y costau cyfredol. Erbyn mis Mawrth 2020, byddwn wedi gwireddu arbedion gwerth tua £2.4 miliwn ar gyfer yr eiddo hynny a gaewyd rhwng 1 Ebrill 2015 a 31 Mawrth.

Mae adroddiad Cyflwr yr Ystad yn cynnwys enghreifftiau o sut y mae'r sector cyhoeddus yn cyd-leoli gwasanaethau a sefydliadau o fewn yr ystad weinyddol er mwyn ymateb i'r heriau ariannol presennol. 

Mae hyn yn cyd-fynd â gwaith y Gweithgor Asedau Cenedlaethol sy'n dylanwadu ar reoli asedau cydweithredol ar draws y sector cyhoeddus ac yn defnyddio dull o weithredu sy'n seiliedig ar leoedd i wneud y defnydd gorau posibl o'n hadnoddau ar y cyd.

Bydd y Gweithgor Asedau Cenedlaethol yn cael ei ail-frandio fel 'Ystadau Cymru', i adlewyrchu ei gylch gwaith eang.

Mae Adroddiad Blynyddol Cyflwr yr Ystad i'w weld yma http://gov.wales/about/civilservice/how-we-work/facts-figures/our-buildings/?skip=1&lang=cy