Neidio i'r prif gynnwy

Peidiwch â chodi na chyffwrdd ag unrhyw adar marw neu sâl.
 

Dylech ddefnyddio’r system ar-lein (ar GOV.UK) neu ffonio llinell gymorth DEFRA (03459 33 55 77) os byddwch yn dod o hyd i unrhyw adar gwyllt marw.

Bydd gofyn i chi nodi’r canlynol:

Peidiwch â rhoi gwybod i linell gymorth DEFRA am adar gwyllt sâl neu wedi’u clwyfo y gwelwch chi.  Ffoniwch yr RSPCA (yng Nghymru neu Loegr) ar 0300 1234 999 am help.

Bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn casglu rhai o’r adar gwyllt marw hyn a’u profi i’n helpu ni i ddeall dosbarthiad daearyddol y clefyd a’r mathau gwahanol o adar mae’r clefyd yn effeithio arnynt. Ni fydd pob aderyn yn cael ei gasglu.

Os nad oes angen aderyn marw at ddibenion monitro, y tirfeddiannwr sy’n gyfrifol am gael gwared ar y carcas mewn modd diogel.

I gael map rhyngweithiol o'r holl ganfyddiadau adar gwyllt hyd yma, ewch i wefan APHA