Neidio i'r prif gynnwy

1. Trosolwg

Pan fyddwn yn gwneud penderfyniad treth yn Awdurdod Cyllid Cymru (yr Awdurdod), fel pennu cosb am ffeilio neu dalu’n hwyr, byddwn yn ysgrifennu atoch ac yn egluro.

Gallwch gysylltu â ni os oes arnoch angen mwy o wybodaeth neu os nad ydych yn deall ein penderfyniad. Byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.

Sut i apelio

Os ydych chi'n anhapus â'n penderfyniad, efallai y bydd yn bosibl i chi:

  • ofyn i ni ei adolygu
  • apelio’n syth i'r tribiwnlys treth annibynnol

Mae angen i chi wneud hyn o fewn 30 diwrnod o'r dyddiad y byddwn yn cyhoeddi’r llythyr penderfyniad treth. Os byddwch yn gofyn am adolygiad, ni allwch apelio i'r tribiwnlys hyd nes y byddwn ni wedi gorffen adolygu penderfyniad.