Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ateb sy'n cael ei argymell ganddo yn canolbwyntio ar y canlynol:

  • Llawer iawn mwy o flaenoriaeth i fysiau.
  • Trefniadau parcio a theithio mewn lleoliadau allweddol, gan gynnwys y safleoedd hynny a gaiff eu pennu yn 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol".
  • Trefniadau parcio a theithio ar raddfa fechan mewn safleoedd bws sy'n cael eu defnyddio gan nifer uchel iawn o gymudwyr (ee Ffynnon Taf, yr Orsedd a Ffordd Fabian).
  • Gwell cyfleusterau aros mewn safleoedd bws.
  • Cyfnewidfeydd cyfleus.
  • Gwell safonau ansawdd ar draws y fflyd bysiau a geir ar draws Cymru.
  • Gwaith marchnata effeithiol sy'n cymell pobl i ystyried defnyddio'r bws yn hytrach na'r car.
  • Gwell gwybodaeth mewn safleoedd bws.
  • Mwy o wasanaethau cynnar a hwyr a/neu wasanaethau ar ddydd Sul er mwyn bodloni gofynion mwy o gymudwyr ac er mwyn gwneud bysiau'n fwy gweladwy.
  • Mae'r gwaith cydgysylltu sy'n angenrheidiol yn creu cyfle i Trafnidiaeth Cymru ddwyn ynghyd fysiau a threnau o fewn rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig.