Neidio i'r prif gynnwy

Yn egluro cyfrifoldebau’r adolygiad a sut y mae’n gweithredu.

Cefndir

Rhagwelir y bydd y chwyldro technolegol nesaf yn arwain at newid sylfaenol yn y ffordd rydyn ni’n byw, yn gweithio ac yn ymwneud â’n gilydd. Mae amryw o astudiaethau ymchwil wedi ceisio deall maint a chwmpas tebygol y newid hwn ac, wrth wneud hynny, nodwyd meysydd risg i Gymru mewn rhanbarthau, diwydiannau a rolau swyddi penodol.

Mae’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi yn cydnabod y cysylltiad agos rhwng awtomatiaeth, deallusrwydd artiffisial a mathau eraill o ddigideiddio a’r effaith drawsnewidiol mae’r meysydd hyn yn debygol o’i chael ar economi Cymru a dyfodol y farchnad lafur. Ochr yn ochr â hyn, mae’r Cynllun Cyflogadwyedd yn nodi’r rôl bwysig sydd gan y system addysg a hyfforddiant o ran paratoi ein cenedl ar gyfer heriau a chyfleoedd yfory.

Mae’n hollbwysig bod Cymru’n gallu deall ei gallu i ymateb i’r cyfnod nesaf o ddatblygiadau technolegol a bod ein hymateb yn integredig a chynhwysfawr, yn adeiladu ar arferion gorau rhyngwladol ac yn cynnwys rhanddeiliaid o’r sectorau cyhoeddus a phreifat.

Nod

Bydd yr adolygiad yn cyflwyno asesiad eang o’r datblygiadau technolegol sy’n cael eu gwneud ym maes awtomatiaeth, roboteg, deallusrwydd artiffisial, y rhyngrwyd a data ar raddfa fawr, ynghyd â’r cyfleoedd a’r heriau o ran manteisio ar y technolegau hyn yng nghyd-destun economi Cymru a dyfodol gwaith yng Nghymru.

Nod yr adolygiad yw ymchwilio i’r camau y gellid eu cymryd er mwyn llywio canlyniad a chyfeiriad arloesi digidol yng Nghymru i sicrhau bod modd i’w fanteision gael eu gwireddu’n llawn a’u rhannu gan bawb, yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i genedl gwaith teg, ffocws y Cynllun Gweithredu ar yr Economi a’r ymrwymiadau a wnaed yn y Cynllun Cyflogadwyedd.

Bydd yr argymhellion terfynol yn cael eu gwneud erbyn mis Mawrth 2019, er bod gan yr adolygiad y cwmpas i ddarparu cyngor parhaus fel bod modd profi syniadau newydd a dysgu ganddynt ar y cyfle cyntaf.

Amcanion

Bydd yr adolygiad yn archwilio’r meysydd canlynol wrth ddwyn ynghyd ei dystiolaeth, ei ddadansoddiad a’i argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru:

  1. Deall sut rydyn ni’n manteisio ar awtomatiaeth, roboteg, deallusrwydd artiffisial, y rhyngrwyd a data ar raddfa fawr yng Nghymru ar hyn o bryd a nodi meysydd o arferion gorau.
  2. Diffinio sut mae mathau o arloesi digidol yn debygol o weddnewid Cymru, sut bydd y newid hwn yn effeithio ar yr economi a’r farchnad lafur a’r ffyrdd y bydd y newid yn wahanol i chwyldroadau diwydiannol blaenorol.
  3. Archwilio sut gellid manteisio ar ddatblygiadau yn y defnydd o ddata i sbarduno newidiadau i fusnesau yng Nghymru ac archwilio’r meysydd sy’n datblygu lle gallai Cymru fod â mantais gystadleuol.
  4. Mapio dyfodol gwaith yng Nghymru yng nghyd-destun arloesi digidol a phennu’r patrymau o newid ar draws sectorau a galwedigaethau, ynghyd ag unrhyw risgiau a allai greu anghydraddoldebau cyflog, sgiliau neu gymdeithasol.
  5. Asesu sut bydd angen i fodelau busnes presennol addasu yng ngoleuni newidiadau technolegol, yn enwedig mewn perthynas â BBaChau, a phennu’r mecanweithiau posibl ar gyfer hwyluso’r newid hwn.
  6. Nodi’r cyfleoedd i wella ansawdd swyddi yng Nghymru a’r meysydd sgiliau sydd eu hangen i ategu’r defnydd o dechnolegau.
  7. Adolygu tystiolaeth ryngwladol o amharu a thrawsnewid digidol a nodi cymwysiadau polisi ar gyfer Cymru.
  8. Pennu’r cyfleoedd a’r heriau ar gyfer sectorau allweddol yn economi Cymru – fel y’u nodir yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi – sy’n canolbwyntio ar gynigion i gyflymu’r defnydd o dechnoleg yn y sectorau hynny.
  9. Asesu pa mor barod yw’r sector cyhoeddus i fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir gan dechnolegau newydd o ran hyrwyddo lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
  10. Diffinio pa strwythurau llywodraethu ac ôl-adolygu sydd eu hangen er mwyn cynnal y ffocws ar fanteisio ar dechnoleg yng Nghymru.

Bydd yr adolygiad yn gosod ei argymhellion i lywio Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru: Ffyniant i Bawb, y Cynllun Gweithredu ar yr Economi a’r Cynllun Cyflogadwyedd, ynghyd â helpu Llywodraeth Cymru ac eraill i gynyddu eu cyfraniad at y nodau llesiant. Bydd yr Egwyddor Datblygu Cynaliadwy a’r pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael eu defnyddio i ddatblygu gwaith yr adolygiad.

Cwmpas

Bydd yr adolygiad yn adrodd ar waith Bwrdd Cynghori Gweinidogion newydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

Bydd yn crynhoi tystiolaeth a dadansoddiadau o bob cwr o Gymru a thu hwnt, gan ddefnyddio grwpiau ffocws, cyfweliadau, datganiadau tystion ac ymweliadau astudio yn ôl yr angen ac yn amodol ar amser a chyllideb. Dylai’r adolygiad ddefnyddio rhwydweithiau a fforymau presennol hefyd i wella ei waith ac i hwyluso cydweithredu ar draws rhanddeiliaid.

Bydd Cadeirydd a Phanel Arbenigol yr adolygiad yn pennu’r fethodoleg fwyaf priodol i ategu’r ffordd y cesglir tystiolaeth a dadansoddiadau. Fodd bynnag, bydd yn adeiladu ar ddeallusrwydd ymchwil a deallusrwydd y farchnad lafur presennol cyn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried opsiynau ar gyfer comisiynu unrhyw ddeunyddiau briffio ac ymchwil ychwanegol.

Bydd yr adolygiad yn cyfarfod bob deufis o leiaf ac yn adrodd i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn dilyn pob cyfarfod gan roi’r diweddaraf ar gynnydd hyd yma a nodi unrhyw risgiau neu bryderon mawr. Dylai’r diweddariad hwn gael ei gopïo hefyd i Arweinydd y Tŷ, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.

Arweinyddiaeth

Bydd yr adolygiad yn cael ei gadeirio gan yr Athro Phil Brown, Cymrawd Ymchwil yn Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd. Bydd yn cael ei gefnogi gan Banel Arbenigol o 8-10 o unigolion â’r arbenigedd priodol i lywio’r adolygiad. Bydd angen cworwm o 6 unigolyn i gynnal unrhyw agwedd ar waith yr adolygiad.

Bydd aelodau’r panel yn dod o Gymru a thu hwnt ac yn gweithredu mewn rhinwedd bersonol yn hytrach na chynrychioli barn eu busnes, sefydliad neu unrhyw aelodaeth neu grŵp cyswllt.

Bydd y Panel yn bwydo at waith yr adolygiad, ond y Cadeirydd ar y cyd á swyddogion Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am bob penderfyniad gweithredol fel rhan o’r adolygiad.

Telir treuliau priodol i aelodau’r panel mewn perthynas â’u costau teithio a chynhaliaeth wrth fynychu cyfarfodydd a drefnwyd gan yr adolygiad.

Bydd cymorth ysgrifenyddol ar gyfer yr adolygiad yn cael ei ddarparu gan swyddogion o Gyfarwyddiaeth Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru.

Dylai unrhyw newidiadau i ffocws yr adolygiad gael eu gwneud ymlaen llaw a gyda chytundeb Gweinidogion Cymru.

Allbynnau

Bydd yr adolygiad yn cynhyrchu’r allbynnau canlynol:

  • Erbyn 30 Mehefin 2018, dylai ddarparu rhaglen waith yn seiliedig ar y Cylch Gorchwyl a ddatblygwyd trwy ymgynghoriad â’i Banel Arbenigol. Dylai’r rhaglen waith amlinellu sut mae’r adolygiad yn bwriadu cyflawni ei nod, ei amcanion a’i argymhellion erbyn mis Mawrth 2019.
  • Erbyn 30 Mehefin 2018, dylai ddarparu cynllun ymgysylltu a chyfathrebu â rhanddeiliaid.
  • Yn dilyn pob cyfarfod o’r Panel Arbenigol, a bob deufis o leiaf, dylai’r Cadeirydd gynhyrchu adroddiad yn nodi’r cynnydd hyd yma ac unrhyw risgiau neu bryderon mawr sy’n gysylltiedig â’r adolygiad.
  • Parhau i gyhoeddi unrhyw dystiolaeth a phapurau briffio a gomisiynwyd gan yr adolygiad pan fo wedi cael caniatâd i’w cyhoeddi. Dylai’r wybodaeth a gyhoeddir fod o fudd i’r cyhoedd ac ni ddylai danseilio darpariaeth ehangach yr adolygiad.
  • Erbyn 30 Tachwedd 2018, dylai’r adolygiad gynhyrchu adroddiad interim yn nodi ei ganfyddiadau hyd yma ac yn rhoi syniad o’r argymhellion tebygol i’w cyflwyno i Lywodraeth Cymru.
  • Erbyn 31 Mawrth 2019, dylai adroddiad a chrynodeb gweithredol fod ar gael yn rhoi manylion y dystiolaeth, y dadansoddiad a’r argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru o ganlyniad i’r adolygiad.
  • Mae gan yr adolygiad yr hyblygrwydd i wneud argymhellion cyn cyhoeddi ei adroddiadau interim a therfynol at ddiben profi syniadau newydd ar y cyfle cyntaf.

Yn y lle cyntaf, dylai holl allbynnau’r adolygiad gael eu cyfeirio at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’u copïo i Arweinydd y Tŷ, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes.
Bydd yr adolygiad yn llywio datblygiad y Cynllun Gweithredu ar yr Economi, y Cynllun Cyflogadwyedd a’r Strategaeth Genedlaethol: Ffyniant i Bawb, a bydd yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru yn unol â’u pwerau datganoledig, gyda ffocws ar feysydd allweddol ar gyfer datblygu polisi a mentrau i’r dyfodol.