Neidio i'r prif gynnwy

Diffiniwyd y cylch gorchwyl i sicrhau bod canlyniad yr adolygiad yn canolbwyntio ar y materion priodol.

Yr adolygiad

Bydd yr adolygiad yn:

  • Diffinio’r materion allweddol sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol
  • Nodi lle mae angen newid a'r achos dros newid
  • Pennu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol gan gynnwys symud iechyd a gofal cymdeithasol ymlaen gyda'i gilydd, gan ddatblygu gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i'r ysbyty
  • Cynghori ar sut y gellir cyflwyno newid, gan adeiladu ar agweddau cadarnhaol ar y system bresennol.

Adrannau i adolygu

I wneud hyn, byddwn yn ystyried chwe maes ar draws iechyd a gofal cymdeithasol:

  • Dadansoddiad o'r ffordd y mae pethau nawr, gan gynnwys yr hyn a ddysgwyd o astudiaethau blaenorol
  • Diffiniad o sut y gallai iechyd a gofal cymdeithasol edrych yn y dyfodol, gan gynnwys meddwl am wahanol fodeli cyflawni, materion sefydliadol a safbwynt y dinesydd
  • Metrigau, systemau, llywodraethiant a chyflymder y newid
  • Materion y gweithlu gan gynnwys diwylliant, morâl, addysg a hyfforddiant, natur cefn gwlad a'r Gymraeg
  • Ansawdd a Diogelwch, gan gynnwys Ymchwil a Datblygu, ac Arloesi
  • Cynhyrchiant, gan gynnwys data a throsolwg, digidol, a cyllid