Neidio i'r prif gynnwy

Mae panel arbenigol wedi cael ei sefydlu i gynnal adolygiad seneddol o iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae hyn yn unol â'r ymrwymiad a wnaed gan y Prif Weinidog.

Adrodd

Gofynnwyd i'r panel lunio adroddiad erbyn Nadolig 2017. Bydd yn argymell camau ar gyfer: 

  • gwella iechyd a llesiant pobl ledled Cymru 
  • lleihau anghydraddoldebau iechyd

Dylai'r adroddiad ystyried y sefyllfa ar hyn o bryd. Bydd yn amlinellu'r heriau sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol dros y 5-10 mlynedd nesaf.

Mae’r panel wedi cyhoeddi adroddiad interim, sydd yn amlinellu pan fod newid yn angenrheidiol, ac yn sôn am faesydd eraill caiff eu cynnwys yn yr adroddiad terfynol.

Cyd-destun yr adolygiad

Bydd y panel yn gweithio yn y cyd-destun a osodwyd gan ddeddfwriaeth ddiweddar:

  • y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant  
  • saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Yn ogystal â'r heriau yn sgil y cynnydd yn y galw, newidiadau demograffig a chynaliadwyedd ariannol.