Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd cyngor Bro Morgannwg gyllid i wella Five Mile Lane.

Statws:
Wedi ei gwblhau
Rhanbarth / Sir:
Bro Morgannwg
Dyddiad dechrau:
Rhagfyr 2017
Dyddiad gorffen:
prif gwaith wedi ei gwblhau haf 2019
Cost:
£25.8 miliwn
Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Pam y gwnaethom hyn

Bydd y gwelliannau yn:   

  • lleihau yr amrywio yn yr amser teithio rhwng Croes Cwrlwys ac Ardal Fenter Maes Awyr Caerydd  
  • lleihau yr amser teithio rhwng Croes Cwrlwys ac Ardal Fenter Sain Tathan  
  • annog y traffig i beidio â defnyddio ffyrdd eraill i’r Ardaloedd Menter  
  • gwella mynediad i’r ardaloedd menter ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, cerddwyr a beicwyr.

Ynghylch y prosiect

Cyflwynodd cyngor Bro Morgannwg gais cynllunio ar gyfer y prosiect yng ngwanwyn 2016, a chafodd ganiatâd cynllunio yn ystod gaeaf 2016. Penodwyd Capita fel Asiant Cyflogwyr ar gyfer y prosiect, a Bruton Knowles fel yr asiant tir.

Cyngor Bro Morgannwg wnaeth y Gorchymyn Prynu Gorfodol i brynu'r tir yn haf 2017 yn dilyn Ymchwiliad Cyhoeddus.

Cwblhawyd y gwaith yn ystod haf 2019.

Y gwaith

Rydym wedi adeiladu ffordd newydd 4km, i’r dwyrain o’r A4226 presennol.  Bydd y rhan newydd hon o’r ffordd yn dechrau ger Fferm Ymddiriedolaeth Amelia.  Bydd yn ail-ymuno â’r A4226 ger Pont Afon Weycock a Chanolfan Heboga Cymru.

Mae 2 gyffordd newydd i gyrraedd aneddiadau i’r gorllewin o’r rhan newydd o’r ffordd, ac 1 gyffordd i’r dwyrain.  

Cewch ragor o fanylion am y prosiect ar Borth cynllunio cyngor Bro Morgannwg.

Camau nesaf

Mae cyngor Bro Morgannwg yn gwneud gwaith ôl-ofal sy'n cynnwys:

  • cynnal a chadw'r dirwedd
  • arolygon ecolegol
  • torri glaswellt.

Bydd y gwasanaethau hyn yn parhau tan ddechrau 2025.